Mae canlyniadau Cyfrifiad 2011 wedi synnu llawer. Methodd Llywodraeth Cymru â chyrraedd y targed a osodwyd ganddynt i godi nifer y siaradwyr Cymraeg i 25%, gyda’r canran y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng o 20.8% i 19%.
Daeth dros 150 o gefnogwyr y Gymraeg ynghyd mewn rali Cymdeithas yr Iaith i godi llais am ganlyniadau'r Cyfrifiad ym Merthyr Tudful heddiw (11yb, Dydd Sadwrn, 5ed Ionawr).
Cododd y dorf arwyddion yn dweud 'dwi eisiau byw yn Gymraeg'’ a rhannwyd copïau o’i ‘maniffesto byw’ sydd yn cynnwys dros ugain o bolisïau gyda’r nod o gynyddu’r defnydd a’r nifer o siaradwyr Cymraeg.
DAETH 400 o bobl i rali Cymdeithas yr Iaith i godi llais am ganlyniadau'r Cyfrifiad heddiw.
Cododd y dorf arwyddion yn dweud 'dwi eisiau byw yn Gymraeg' yn lansio ymgyrch newydd y Gymdeithas.Yn ystod y rali, lansiodd y mudiad ‘maniffesto byw’ fel ymateb i ganlyniadau'r Cyfrifiad. Mae’r maniffesto yn cynnwys dros ugain o bolisïau gyda’r nod o wrth-droi dirywiad y Gymraeg a welwyd yng nghanlyniadau’r Cyfrifiad yn gynharach yr wythnos hon.
Am wythnos i ddod yn gadeirydd Cymdeithas yr Iaith! Mae canlyniadau'r cyfrifiad yn dangos bod argyfwng yn ein cymunedau, a bod sefyllfa'r Gymraeg yn un argyfyngus.
Gallwn ni yng Nghymdeithas yr iaith fod yn ganolog i'r chwyldro bydd yn gwrthdroi'r dirywiad ac yn creu cymunedau Cymraeg cynaliadwy.
Mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi peintio sloganau ar swyddfeydd Cyngor Sir Dinbych oherwydd cynlluniau i ganiatáu adeiladu miloedd o dai diangen yn y sir.
Mae llai nag un ymhob tair mil o geisiadau cynllunio yn cael eu hasesu am eu heffaith ar yr iaith Gymraeg yn ôl cais rhyddid gwybodaeth gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Gallai deddfwriaeth newydd yn ymwneud â datblygu cynaliadwy, a gafodd ei chyhoeddi heddiw, danseilio strategaeth iaith y Llywodraeth, yn ôl ymgyrchwyr.
Mae'r Gweinidog Amgylchedd John Griffiths wedi cyhoeddi Papur Gwyn ar Fil Datblygu Cynaliadwy a fydd yn gwneud datblygu cynaliadwy yn 'prif egwyddor drefniadol' ar gyfer penderfyniadau strategol cyrff cyhoeddus.