Cymunedau Cynaliadwy

Accusing bank of ignoring Welsh-speaking communities

Cymdeithas yr Iaith has accused the NatWest Bank of ignoring Welsh-speaking communities following their decision, announced today, to close a number of branches in Carmarthenshire and Dyffryn Teifi - including Llandysul, Llanybydder and Hendy Gwyn (Whitland). The information was conveyed to customers in an English-only circular letter from Huw Thomas, the "Local CEO" of the NatWest, who urged customers to turn to the bank's English-language online banking services or to the Post Office.

Cyhuddo banc o ddiffyg ymrwymiad at gymunedau Cymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo'r banc NatWest o ddiffyg ymrwymiad at gymunedau Cymraeg yn dilyn penderfyniad, a ddaeth i'r amlwg heddiw, i gau nifer o ganghennau yn Sir Gaerfyrddin a Dyffryn Teifi - yn cynnwys Llandysul, Llanybydder, Cei Newydd a Hendy Gwyn ar Daf. Daeth y wybodaeth at gwsmeriaid mewn cylchlythyr uniaith Saesneg gan Huw Thomas, Prif Swyddog Gweithredol y NatWest yn yr ardal (Wales and the South West), yn annog cwsmeriaid i ddefnyddio'n hytrach gwasanaethau arlein Saesneg neu Swyddfa'r Post.

Trafod Cynllun Datblygu Lleol Powys

02/09/2014 - 19:30

7:30pm, Medi 2, Brigands Inn, Mallwyd

Mae Cyngor Powys yn ymgynghori ar ei Gynllun Datblygu Lleol, a'r wybodaeth i gyd fan hyn - http://www.powys.gov.uk/cy/cynllunio-a-rheoli-adeiladu/cynllun-datblygu-lleol/

Mae'r cyfnod ymgynghori yn dod i ben ar Fedi'r 8fed felly byddwn ni'n paratoi ymateb y Gymdeithas i'r Cynllun Datblygu.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda ni - post@cymdeithas.org / 01970 624501

Angen dileu targedau tai medd cerddorion, cefnogaeth i'r ymgyrch cynllunio

Mae nifer o gerddorion wedi galw am ddileu targedau tai cenedlaethol er mwyn cryfhau’r Gymraeg ar lefel gymunedol, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhoeddi heddiw.

Ymysg yr un cerddor ar ddeg sydd wedi datgan awydd i symud i system a fyddai’n gwneud anghenion lleol yn ganolbwynt i’r system gynllunio mae’r diddanwr Dewi Pws Morris, cantores y band Clatshobant Delyth Wyn ac aelodau’r band Edward H Dafis, Cleif Harpwood o Borth Talbot, a Hefin Elis o Gaernarfon.

Cymdeithas reaction to Carwyn Jones' Welsh language statement

As we bring a 36-hour vigil to a close Cymdeithas yr Iaith Gymraeg have responded to the First Minister’s statement about the Government’s Welsh language policy today (Tuesday, June 17).
 
Robin Farrar, Chair of Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, said:

Carwyn Jones ar y Gymraeg

Wrth ddod â’n gwylnos 36 awr i ben mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i ddatganiad y Prif Weinidog ar y Gymraeg heddiw
 
Meddai Robin Farrar, Cadeirydd y Gymdeithas:

Cynllunio a’r Iaith Gymraeg – y ffordd ymlaen

Ym mis Mawrth eleni cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ei hymateb i “Ddrafft Bil Cynllunio” Llywodraeth Cymru. Nid yw’r drafft yma yn cyfeirio o gwbl at y Gymraeg. Os na newidir y drafft yma ni fydd modd gwrthod na chaniatau datblygiad oherwydd yr effaith ar y Gymraeg. Yn sgîl cynnal nifer o gyfarfodydd gyda Gweinidogion, Aelodau Cynulliad o bob plaid, swyddogion cynllunio a chynghorwyr rydym wedi penderfynu bod angen dangos i’n gwleidyddion beth sydd yn bosib.

Mudiadau yn galw am newidiadau i’r drefn gynllunio

Mae nifer o fudiadau a Chymry blaenllaw wedi datgan eu cefnogaeth i ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros newidiadau i’r drefn gynllunio er mwyn cryfhau’r Gymraeg ar lefel gymunedol, cyhoeddodd y mudiad iaith heddiw.

Croeso cynnes i dreth ar ail dai

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu’r newyddion bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu gadael i gynghorau sir godi treth uwch ar ail dai.

Mae’r polisi yn un o’r argymhellion ym Maniffesto Byw y mudiad iaith a gyhoeddwyd yn gynharach eleni mewn ymateb i ganlyniadau’r Cyfrifiad.

Na i 8,000 o dai yng Ngwynedd a Môn - protest

Daeth tri chant o brotestwyr ynghyd yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn er mwyn protestio yn erbyn cynlluniau i adeiladu wyth mil o dai yng Ngwynedd ac Ynys Môn.

Galwodd y brotest, a gafodd ei harwain gan bwyllgor lleol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, am foratoriwm ar y cynllun datblygu lleol nes fydd gwaith ymchwil wedi ei gwblhau i fesur anghenion tai a gwasanaethau ym mhob cymuned yn y sir. Mae cynghorau Gwynedd ac Ynys Môn yn ymgynghori ar eu cynlluniau datblygu lleol ar hyn o bryd.