Mae nifer o gerddorion wedi galw am ddileu targedau tai cenedlaethol er mwyn cryfhau’r Gymraeg ar lefel gymunedol, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhoeddi heddiw.
Ymysg yr un cerddor ar ddeg sydd wedi datgan awydd i symud i system a fyddai’n gwneud anghenion lleol yn ganolbwynt i’r system gynllunio mae’r diddanwr Dewi Pws Morris, cantores y band Clatshobant Delyth Wyn ac aelodau’r band Edward H Dafis, Cleif Harpwood o Borth Talbot, a Hefin Elis o Gaernarfon.