Mae Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gâr wedi croesawu'n fawr adroddiad a osodir gerbron Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin heddiw ar adfywio cymunedau gwledig y sir.
Mewn ymateb, dywed Sioned Elin, Cadeirydd y Gymdeithas yn Sir Gaerfyrddin:
"O dderbyn a gweithredu ar argymhellion yr adroddiad ar adfywio cymunedau gwledig y sir, bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn gosod esiampl i Gymru gyfan ac yn cywilyddio Llywodraeth Cymru a'i sbarduno i weithgarwch.
Dewch yn llu i gyfarfod Rhanbarth Ceredigion i ni gael trafod sut y medrwn ni hybu'r Iaith yn Sir Gâr a Sir Benfro!Cyfarfod yn cael ei gynnal yng Ngwesty'r Cwins, Caerfyrddin am 7 y hwyr ar y 15eg o Orffennaf!

Wrth ymateb i gyhoeddiad Cyngor Sir Gâr eu bod yn dechrau cyfnod o ymgynghori i newid darpariaeth Cyfnod Sylfaen ysgolion Y Ddwylan, Griffith Jones, Llangynnwr a Llys Hywel i fod yn Gymraeg a newid Ysgol Rhys Pritchard o fod yn ddwy ffrwd i fod yn ysgol Gymraeg dywedodd Sioned Elin ar ran Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin:
"Rydyn ni'n llongyfarch y cyngor am ddechrau ymgynghoriad er mwyn gosod pump o ysgolion y sir ar lwybr tuag at addysg Gymraeg, a hyderwn y bydd cefnogaeth eang i hynny."