Caerfyrddin Penfro

Cyngor Sir Caerfyrddin i osod esiampl o ran y Gymraeg

Y penwythnos yma bydd arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, ynghyd â chynghorwyr o wahanol bleidiau a swyddogion o adran y Prif Weithredwr, i fforwm cyhoeddus a drefnir gan ranbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith er mwyn trefnu defnydd y cyngor ei hun o'r Gymraeg. Cynhelir y fforwm agored am 09.30 fore Sadwrn yma 21ain Medi yn Llyfrgell Caerfyrddin, a bydd cyfle i'r cyhoedd holi cwestiynau i'r cynghorwyr a chyfrannu at y trafod.

Cyfarfod Adeiladu Tai yng Nghrymych

Dewch i gyfarfod Cyhoeddus ar y 25ain o Fedi yng Nghlwb Rygbi Crymych am 7:00yh, i drafod y 56 o dai sy'n fod i gael ei hadeiladu yn y pentref. Mae llawer iawn o'r trigolion lleol wedi codi pryder gyda'r cynlluniau - Mae hwn yn gyfle i chi gael dweud eich dweud gyda'r mater!

Cyfarfod Cell Penfro

Dewch yn llu i gyfarfod Cell Penfro yn Nhafarn y Pembroke Yeoman, Hwlffordd am 7:00yh ar y 23ain o Fedi!
 

Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Caerfyrddin - Penfro

Cynhelir cyfarfod blynyddol Rhanbarth Caerfyrddin - Penfro yng Ngwesty'r Queens, Caerfyrddin ar y 4ydd o Fedi am 7:00yh.
Mae hwn yn gyfarfod pwysig i'n haelodau gael lleisio eu barn.
Dewch yn llu i ni gael trafod dyfodol y Rhanbarth ac i benodi swyddogion.
cymdeithas 12_15.png

Cyfarfod Cell Cwm Aman

Cynhelir cyfarfod Cell Cwm Aman yng Nghlwb yr Aman, Glanaman ar y 5ed o Fedi am 7:00yh.
Mae hwn yn gyfarfod cyntaf y gell ar ôl i ni lansio'n swyddogol yng Ngig yr Welsh Whisperer.
Dewch yn llu i ni gael trafod yr holl bethau o'm blaenau yn y Cwm! 
cell ceredigion_7.jpg

Croesawu cynllun i adfywio cymunedau gwledig Sir Gâr

Mae Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gâr wedi croesawu'n fawr adroddiad a osodir gerbron Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin heddiw ar adfywio cymunedau gwledig y sir.

Mewn ymateb, dywed Sioned Elin, Cadeirydd y Gymdeithas yn Sir Gaerfyrddin:
"O dderbyn a gweithredu ar argymhellion yr adroddiad ar adfywio cymunedau gwledig y sir, bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn gosod esiampl i Gymru gyfan ac yn cywilyddio Llywodraeth Cymru a'i sbarduno i weithgarwch.

Cyfarfod Rhanbarth Sir Gâr - Penfro

Dewch yn llu i gyfarfod Rhanbarth Ceredigion i ni gael trafod sut y medrwn ni hybu'r Iaith yn Sir Gâr a Sir Benfro!Cyfarfod yn cael ei gynnal yng Ngwesty'r Cwins, Caerfyrddin am 7 y hwyr ar y 15eg o Orffennaf!

Cyfarfod Rhanbarth Sir Gâr - Penfro

Dewch yn llu i gyfarfod Rhanbarth Ceredigion i ni gael trafod sut y medrwn ni hybu'r Iaith yn Sir Gâr a Sir Benfro!Cyfarfod yn cael ei gynnal yng Ngwesty'r Cwins, Caerfyrddin am 7 y hwyr ar y 15eg o Orffennaf!

Cyfarfod Cell Rhydaman

Cyfarfod Cell Cwmaman yn Nghlwb yr Aman, Glanaman am 7 o'r gloch - Dewch yn llu i ni gael trafod materion sy'n gwynebu'r ardal!

cymdeithas 12_10.png

Lansio’r Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol

Lansio’r Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol
11yb, dydd Llun, 24 Mehefin