Cymdeithas yr Iaith has accused Ceredigion Council of wasting time and money with spurious public consultations which are claimed to be no more than "exercises in ticking boxes".
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Cyngor Ceredigion o wastraffu arian ac amser gyda ffug brosesau ymgynghori sydd at bwrpas "ticio blychau" yn unig.
Erbyn Ddydd Llun nesaf (6/1) daw ymgynghoriad i ben ar bapur y Cyngor ynghylch creu Ysgol newydd yn Llandysul, a'r wythnos ganlynol daw ymgynghoriad i ben ar gynnig y Cyngor i gau Ysgol Dihewyd. Mae'r Gymdeithas yn honni mai mynd trwy gamau gwag y mae'r Cyngor wrth honni ymgynghori a'u bod yn gwneud canllawiau'r Llywodraeth yn destun gwawd.
Gosododd ymgyrchwyr iaith gloeon ar adeilad Llywodraeth Cymru heddiw (Rhagfyr 14) er mwyn galw am chwe newid polisi er lles y Gymraeg, gan nodi blwyddyn ers i ganlyniadau’r Cyfrifiad ddangos cwymp yn nifer siaradwyr yr iaith.
Daeth 50 o aelodau Cymdeithas yr Iaith a rhieni o ysgolion pentrefol Cymraeg yng Ngheredigion i gyntedd pencadlys Cyngor Ceredigion wrth i Estyn gynnal arolwg o'r Cyngor Sir.
Roedd eu posteri yn galw am "ESTYN ALLAN at ein cymunedau" a phosteri'n mynnu dyfodol i nifer o ysgolion pentrefol Cymraeg y sir sydd tan fygythiad; a'r protestwyr yn targedu'r Cyngor Sir ac hefyd ESTYN sydd i raddau helaeth yn gyrru'r broses o ymosod ar ein hysgolion.
Wrth siarad gyda rhieni dyweddodd llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis:
Gydag ychydig dros wythnos cyn Rali'r Cloeon bydd cyfle i weld sut gallwch chi helpu. Cofiwch fod angen i bobl ddod ag enghreifftiau o'r ffordd mae'r Llywodraeth yn eu cloi nhw allan o'u cymunedau drwy beidio gweithredu.
Byddwn ni hefyd yn trafod manylion diweddaraf y toriadau i fysiau Arriva a'n hymgyrch i Gymreigio'r Cyngor Sir.
Cyfarfod i ddechau am 7.30 yn Swyddfa Cymdeithas yr Iaith yn Adeilad y Cambria, Aberystwyth.
Yng Nghyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas eleni pasiwyd cynnig brys oedd yn nodi pryder fod gwasanaeth bws Arriva yn cael ei dorri yn yr ardal felly byddwn ni'n trafod sut gallwn ni gydweithio gyda mudiadau eraill yn lleol sydd wedi codi'r mater.