Ceredigion

Pryderon am Neuadd Pantycelyn

Mewn llythyr at aelodau Cyngor Prifysgol Aberystwyth, a fydd yn cwrdd i drafod dyfodol Neuadd Pantycelyn, mae Cell Pantycelyn wedi galw ar y Cyngor i beidio cau ar y Neuadd.

Mae testun y llythyr isod.

I gefnogi ymgyrch Pantycelyn:

Cyfarfod Rhanbarth Ceredigion

10/06/2015 - 19:30

Ystafell Dop y Cŵps, Aberystwyth

Dewch i rannu a thrafod syniadau am sut gallwn ni gefnogi busnesau lleol, sut mae dylanwadu ar y Cyngor Sir a chlywed y diweddaraf am ymgyrch achub Pantycelyn.

Mwy o wybodaeth - bethan@cymdeithas.cymru

Pantycelyn - Ymddygiad Prifysgol yn 'dwyllodrus'

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i'r bygythiad diweddaraf i Neuadd Pantycelyn ym Mhrifysgol Aberystwyth.  

Dywedodd Ffred Ffransis llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:  "Mae ymddygiad y Brifysgol yn dwyllodrus, ac yn codi cwestiynau difrifol am broffesiynoldeb a gonestrwydd eu swyddogion. Yn groes i ewyllys y myfyrwyr a phobl Cymru, mae Prifysgol Aberystwyth yn parhau i geisio ei chau fel llety i fyfyrwyr. Ddylen nhw ddim cael gwneud hynny; a wnawn ni ddim gadael iddyn nhw wneud hynny chwaith.

Cofio Merêd: Noson Deyrnged

15/05/2015 - 19:00

Ystafell dop y Cŵps, Aberystwyth

Bydd 'Rocet' Arwel Jones yn arwain noson gydag Angharad Tomos, Emyr Llew, Cen Llwyd ac eraill wrth iddyn nhw rannu atgofion a phrofiadau o gyd-ymgyrchu gyda'r Dr Meredydd Evans.

Manylion pellach - bethan@cymdeithas.org / 01970 624501

Give newcomers a stake in the future of our Welsh-speaking communities - Cymdeithas plea to Council

 

Expressing its disappointment that Ceredigion's Cabinet has once again taken the "predictable" path of starting a Statutory Consultation on a proposal to close two village schools Cymdeithas say that these schools could be the key to drawing newcomers into Welsh-language community life.

Rhowch ran i fewnfudwyr yn nyfodol ein cymunedau Cymraeg, medd Cymdeithas

Wrth fynegi siom fod Cabinet Ceredigion wedi dilyn llwybr "rhagweladwy" o gychwyn ymgynghori statudol ar gynnig i gau dwy ysgol bentrefol arall dywed y Gymdeithas mai trwy'r ysgolion pentrefol hyn y mae modd tynnu mewnfudwyr ifainc i'r sir i mewn i'r bywyd Cymraeg.

Esbonia Ffred Ffransis, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith:

Cyfarfod Rhanbarth Ceredigion

12/03/2015 - 19:30

Top y Cŵps

Mae Cymdeithas yn cynnal wythnos aelodaeth a bwriad i gynnal rhai digwyddiadau ar draws Cymru ac ar-lein i dynnu sylw at yr ymgyrch aelodaeth. Beth gallwn ni wneud yng Ngheredigion?

Mae ymgyrch genedlaethol Cymreigio Morrisons yn dal i fynd yn ei blaen, a rhai datblygiadau o ran y cyngor sir a'r Gymraeg.

Dere i glywed mwy am hyn a chyfrannu - mwy o wybodaeth: bethan@cymdeithas.org / 01970 624501

Students target Morrisons

Students have pasted posters in the Morrisons store in Aberystwyth as part of a national campaign against the supermarket because of its lack of Welsh language services.

Myfyrwyr yn targedu Morrisons

Mae myfyrwyr Cell Pantycelyn wedi pastio posteri ar siop Morrisons yn Aberystwyth fel rhan o ymgyrch genedlaethol Cymdeithas yr Iaith yn erbyn yr archfarchnad oherwydd diffyg gwasanaethau Cymraeg.

School condemned without visit

Cymdeithas yr Iaith has criticised a report presented to Ceredigion County Council that recommends the closure of a Welsh-medium village school, the author of which has neither visited the school or spoken to anyone connected specifically with the school.