Heddiw (14eg Mawrth 2014) mae aelodau o'r mudiad iaith Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyflwyno copi o’u “Bil Cynllunio ac Eiddo er budd ein Cymunedau” i'r Gweinidog Tai ac Adfywio, Carl Sargeant yn ei swyddfa etholaeth yng Nghei Cona.
Rydym yn annog pawb sy'n poeni am ddyfodol y Gymraeg a chymunedau Cymru i ymateb i ymgynghoriad cyhoeddus gan Gyngor Sir Ddinbych am gynllun tai dadleuol Bodelwyddan.
Fel rhan o Gynllun Datblygu Lleol Cyngor Sir Ddinbych, mae cwmni Barwood Land am godi 1,715 o dai, gan dreblu maint pentref Bodelwyddan yn erbyn ewyllys y 93% â bleidleisiodd yn ei erbyn mewn refferendwm yn y gymuned.
Rydym wedi ysgrifennu neges ebost gallech ei anfon at Gyngor Sir Ddinbych yma:
Mae Cymdeithas yr Iaith yn cyhoeddi heddiw restr o bobl amlwg sydd wedi llofnodi llythyr agored at y Prif Weinidog Carwyn Jones yn cefnogi galwad am chwyldroi addysg Gymraeg. Mae’r rhestr yn cynwys yr Archdderwydd, Aelodau Cynulliad a Seneddol a chynghorwyr lleol, yn ogystal ag addysgwyr a rhai sy’n gweithio gyda phobl ifainc ym maes chwaraeon.
MAE gan Carwyn Jones chwe mis i brofi nad ‘siop siarad’ oedd y Gynhadledd Fawr, yn ôl ymgyrchwyr iaith sydd wedi gosod wltimatwm i Lywodraeth Cymru heddiw.
Mewn llythyr at y Prif Weinidog, mae swyddogion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi datgan bod angen gweld symud ar chwe phwynt polisi er mwyn profi bod y Gynhadledd Fawr wedi bod yn werth chweil. Mae’r llythyr yn gofyn i Carwyn Jones weithredu ar y chwe phwynt polisi canlynol:
Mae’r Prif Weinidog yn wynebu ei ‘brawf cyntaf’ yn sgil ei gyfrifoldeb newydd dros y Gymraeg wrth iddo benderfynu ar y safonau iaith newydd, yn ôl ymgyrchwyr a fydd yn lansio addewid dros hawliau ar faes yr Eisteddfod heddiw.
Mewn cyfarfod â Chymdeithas yr Iaith prynhawn 4ydd o Fehefin, cytunodd Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych i wahodd Comisiynydd y Gymraeg i asesu effaith eu Cynllun Datblygu Lleol ar y Gymraeg.
Mae’r Gymdeithas yn galw arnynt i oedi eu Cynllun Datblygu Lleol tan y bydd TAN20 sy’n mesur effaith cynllunio ar y Gymraeg wedi ei gyhoeddi, hefyd i gyhoeddi adroddiad pwnc ar y Gymraeg ac i greu targedau i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir fesul cymuned.