Clwyd

Cyfarfod Hydref Cell Conwy 2015

07/10/2015 - 19:30
Festri Capel Seion, Llanrwst
 
Cyfarfod i wrando a gweithredu ar bryderon am y Gymraeg yng Nghonwy.
 
Yn rhan o'r cyfarfodydd cyhoeddus y gell sydd nos Fercher cyntaf pob mis.
 
Croeso cynnes i bawb!
 
Am fwy o wybodaeth: www.cellconwy.org

Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Glyndŵr

01/09/2015 - 19:00

Tafarn y Gild, Dinbych

Agenda:

1. Croeso ac ymddiheuriadau

Bydd swyddog cyflogedig newydd gogledd Cymru yn bresennol, er nid yn dechrau yn ei swydd tan ddiwedd mis Medi.

2. Penodi'r canlynol:

(a) Cadeirydd
(b) Ysgrifennydd
(c) Trysorydd

Ysgol Pentrecelyn - cefnogi apelio i'r llysoedd

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i'r newyddion bod Cyngor Sir Ddinbych am fwrw ymlaen gyda chynllun i israddio addysg Gymraeg drwy gau Ysgol Pentrecelyn. 

Meddai llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar addysg Ffred Ffransis: 

Swyddogion Llywodraeth Cymru i gwrdd â'r Saith Seren

Mae ymgyrchwyr iaith wedi dweud eu bod yn gobeithio y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo canolfan Gymraeg y Saith Seren gyda'u costau rhent, cyn i weision sifil gwrdd â'r rheolwyr heddiw.   

Saith Seren - Apêl i Carwyn Jones

Datblygiad Tai Bodelwyddan - newidiadau i'r Bil Cynllunio yn hanfodol

Mae ymgyrchwyr iaith wedi dweud bod penderfyniad Cyngor Sir Dinbych i ganiatáu cais cynllunio i adeiladu datblygiad o 1,700 o dai ym Modelwyddan yn dangos ei bod yn hollbwysig sicrhau bod y Gymraeg yn ganolog i'r Bil Cynllunio. 

Dywedodd Aled Powell, Cadeirydd Rhanbarth Clwyd Cymdeithas yr Iaith:

Agoriad Swyddogol Swyddfa Clwyd CYIG

31/01/2015 - 17:00

Saith Seren Wrecsam

Rydym yn eich gwahodd i dderbynfa yn y Saith Seren er mwyn dathlu agoriad swyddogol swyddfa Clwyd CYIG. Bydd cyfle i gymdeithasu gyda aelodau hen a newydd yn y rhanbarth a thu hwnt.

Bydd ambell i hen wyneb yn rhannu eu profiadau am waith y Gymdeithas dros y blynyddoedd yn yr ardal.

Sion Aled

Ieu Rhos

Marc Jones

Cyfarfod Rhanbarth Clwyd CYIG

12/11/2014 - 19:30

Tafarn y Saith Seren - Wrecsam

Tyrd i drafod gwaith y Gymdeithas yn y rhanbarth, ac i rannu dy syniadau.

 

Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Clwyd

11/09/2014 - 19:30

7.30yh, Nos Fercher, Medi 11eg

Tafarn y Guild, Dinbych