Clwyd

Canllawiau newydd i gynghorau yn sgil helynt iaith Cynwyd

Caiff canllawiau iaith i gynghorau cymuned eu newid yn dilyn penderfyniad dadleuol yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus am bolisi cyngor cymuned yn Sir Ddinbych, mae'r Prif Weinidog wedi dweud wrth ymgyrchwyr iaith. 

Hystings Etholiadau'r Cynulliad - Llanrwst

04/04/2016 - 19:00

Gwesty'r Eagles yn Llanrwst.

Gig Cell Conwy

11/03/2016 - 19:30

Tafarn Penllan, Capel Garmon

Dewch yn llu i gig â drefnwyd gan griw Cell Conwy

Y lein-yp:

*Welsh Whisperer* 
Canu gwlad a gwerin gomedi.

*Siôn Richards*
Artist solo acwstig hyfryd o Fethesda

*Lastigband*
Band newydd sbon lleol i Ddyffryn Conwy. Sŵn gitâr bop gosmig!

Gig Cell Conwy - Tafarn Penllan

Tafarn Penllan Capel Garmon

Hystings Etholiadau'r Cynulliad - Llanrwst

Gwesty'r Eryrod Llanrwst - Eagles Hotel Llanrwst

Wedi cadarnhau ar y panel mae:

Trystan Lewis yr ymgeisydd dros Blaid Cymru i etholaeth Aberconwy
Sarah Lesiter-Burgess yr ymgeisydd dros y Democratiaid Rhyddfrydol i etholaeth Aberconwy
Mary Wimbury yr ymgeisydd rhanbarthol dros y Blaid Lafur

Cyfarfod Rhanbarth Glyndŵr

02/12/2015 - 19:30

Capel Seion Llanrwst

Am fwy o fanylion, cysylltwch â Bethan Ruth Swyddog Maes y Gogledd ar gogledd@cymdeithas.org 01286662908 neu 07791423121

Dylai Cyngor Wrecsam ymddiheuro am or-ddweud cost hawliau iaith newydd

Mae Cyngor Wrecsam yn wynebu galwadau gan ymgyrchwyr iaith i ymddiheuro wedi honiadau eu bod wedi gor-ddweud costau gweithredu dyletswyddau iaith newydd.   

Cyhuddo Cyngor Dinbych o "Israddio systematig o addysg Gymraeg"

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y Gweinidog Addysg Huw Lewis i ymyrryd i atal yr hyn a alwant yn "israddio systematig o addysg Gymraeg" gan Gyngor Sir Dinbych.

Yr wythnos hon, penderfynodd cabinet y Cyngor i israddio Ysgol Ardal newydd ar gyfer disgyblion Ysgol Pentrecelyn (ar y cyd gyda Llanfair Dyffryn Clwyd) o fod yn ysgol gategori 1 (cyfrwng Cymraeg) i fod yn gategori 2 (dwy ffrwd Cymraeg a Saesneg). Ond daeth i'r amlwg fod y Cyngor wedi bod yn israddio addysg Gymraeg yn y sir ers blwyddyn bellach.