Bydd ymgyrchwyr yn lansio cynllun ar gyfer Deddf Addysg Gymraeg yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, 2il Ebrill), gan ddweud ei bod yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y Llywodraeth yn cyrraedd ei tharged o filiwn o siaradwyr Cymraeg.
Mae arbenigwyr addysg wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu peilot o gymhwyster Cymraeg newydd i bob disgybl fel rhan o'r gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm newydd.
Bydd Cymraeg Ail Iaith yn cael ei ddisodli gydag un continwwm o ddysgu'r iaith pan ddaw'r cwricwlwm newydd i rym yn 2022. Mae penderfyniad y Llywodraeth yn dilyn argymhellion yr Athro Sioned Davies a gyhoeddwyd yn 2013.
Mae ymgyrchwyr iaith wedi ymgynnull y tu allan i swyddfeydd Cyngor Gwynedd heddiw mewn ymgais i atal toriadau i ganolfannau trochi iaith y sir.
Mae’r canolfannau yn trochi plant sy’n dod o’r tu allan i'r sir yn y Gymraeg fel eu bod yn medru astudio drwy’r Gymraeg yn yr ysgolion. Mae’r cyngor yn cynnig gwneud toriadau o £96,000 i gyllideb y canolfannau o fis Medi 2019 ymlaen.
Mae mudiad iaith wedi croesawu’rnewyddion heddiw (dydd Llun, 4ydd Chwefror) na fydd y cynnig ym Mhapur Gwyn y Llywodraeth ar y cwricwlwm i orfodi dysgu Saesneg yn ymddangos yn y ddeddfwriaeth wedi’r cwbl.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu cynigion Llywodraeth Cymru i orfodi cylchoedd meithrin yng Nghymru i addysgu'r Saesneg.
Yn ôl y papur gwyn ar y cwricwlwm newydd a gyhoeddwyd heddiw, mae bwriad gosod "dyletswydd ar bob ysgol a Lleoliad Meithrin a Gyllidir i addysgu Saesneg, fel elfen orfodol o'r cwricwlwm newydd i Gymru ... Er nad yw Saesneg yn un o'r pynciau hynny sydd angen statws statudol yn ôl [adroddiad yr Athro Graham Donaldson] Dyfodol Llwyddiannus..."