Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu cynigion Llywodraeth Cymru i orfodi cylchoedd meithrin yng Nghymru i addysgu'r Saesneg.
Yn ôl y papur gwyn ar y cwricwlwm newydd a gyhoeddwyd heddiw, mae bwriad gosod "dyletswydd ar bob ysgol a Lleoliad Meithrin a Gyllidir i addysgu Saesneg, fel elfen orfodol o'r cwricwlwm newydd i Gymru ... Er nad yw Saesneg yn un o'r pynciau hynny sydd angen statws statudol yn ôl [adroddiad yr Athro Graham Donaldson] Dyfodol Llwyddiannus..."