Bydd cyfarfod nesa' Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith dros Zoom am 8.00, nos Fawrth, 15 Ebrill.
Byddwn yn parhau â'r gwaith ar yr ymgyrch Deddf Addysg Gymraeg i Bawb yn ogystal â thrafod rhai materion perthnasol eraill.
Mae'r grŵp bob amser yn chwilio am aelodau newydd o blith aelodau'r Gymdeithas, felly os oes gennych ddiddordeb yn y maes, mae croeso mawr i chi ymuno â'r grŵp.