Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Gyngor Sir Powys i dynnu’n ol ar unwaith ei fygythiad i gau Ysgol gyfrwng-Cymraeg Carno gan honni y byddai gweithred o’r fath yn “ymosodiad cwbl unigryw ar gymuned ac ar addysg gyfrwng-Cymraeg. Ni allai’r “ysgol dderbyn” arfaethedig (Ysgol Llanbrynmair) gymryd ond llai na hanner y 46 o ddisgyblion o Ysgol Carno ac, o ganlyniad, byddai’r gymuned o blant yn cael ei rhannu o reidrwydd.