Bydd y Gell yn gofyn i bobl lofnodi ein deiseb er mwyn i agor Ysgol Gynradd Gymraeg newydd i orllewin Caerdydd. Byddwn ni'n targedu pobl leol i ddangos i'r Cyngor y mae eisiau i agor ysgol yn yr ardal leol. Mae croeso i unrhyw un â diddordeb ymuno â ni.
Bydd ymgyrchwyr yn lansio deiseb yng ngŵyl Tafwyl heddiw (dydd Sadwrn, 22ain Mehefin) yn galw ar i Gyngor Caerdydd wneud yr ysgol gyntaf sy’n rhan o ddatblygiad tai newydd yng ngogledd-orllewin y ddinas yn un cyfrwng Cymraeg yn hytrach na dwyieithog.
Ym mis Ebrill eleni, ac yn groes i addewid Arweinydd Cyngor Caerdydd i agor ysgol benodedig Gymraeg fel rhan o’r datblygiad tai enfawr, cytunodd cabinet y cyngor i ymgynghori ar gynnig i agor ffrwd Saesneg o fewn yr ysgol gyntaf.
Mae grŵp o ddysgwyr a phobl ddi-Gymraeg wedi galw ar y Llywydd Elin Jones i ollwng ei chynlluniau i roi enw Saesneg ar y Senedd mewn llythyr agored ati heddiw (dydd Gwener, 31ain Mai).