Mae mudiad iaith wedi lansio ymgyrch dros sefydlu Menter Iaith Ddigidol gan ddweud bod ‘datblygu’r iaith ar-lein yr un mor bwysig i’r Gymraeg ag oedd cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg’.
Mae Prifysgol Bangor wedi dod o dan y lach wedi iddi hysbysebu pedair swydd nyrsio heb osod y Gymraeg fel sgil hanfodol, ar ôl torri swydd cyfrwng Cymraeg yn yr un maes ychydig wythnosau yn ôl.
Mae'r actores Mali Harries a'r cerddor o'r Super Furry Animals Cian Ciaran ymysg dros 35 o enwogion sydd wedi galw ar Gyngor Caerdydd i sicrhau mai dim ond ysgolion cyfrwng Cymraeg fydd yn cael eu hagor ledled y ddinas yn y dyfodol.
Mae ymgyrchwyr wedi protestio ar stondin Llywodraeth Llafur Cymru yn erbyn cynlluniau a fyddai, yn eu barn nhw, yn gwanhau hawliau iaith yn yr Eisteddfod heddiw (dydd Gwener, 10fed Awst).
Mewn digwyddiad ar faes yr Eisteddfod heddiw, galwodd Cymdeithas yr Iaith am wersi Cymraeg am ddim i fudwyr, gan honni bod polisi presennol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain yn 'rhan o ragfarn ehangach yn erbyn mudwyr'.
Mae ymgyrchwyr wedi cychwyn her gyfreithiol yn erbyn canllawiau cynllunio Llywodraeth Cymru, y maen nhw'n honni sy'n atal cynghorwyr rhag ystyried effa