Ceredigion

Cyngor Rhyddfrydol/Annibynol Ceredigion i wasgu allan unrhyw wrthwynebiad i'w cynllun ysgolion

addysg-ceredigion.jpgAm 9am heddiw, cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith i Gyngor Ceredigion y cyntaf o lawer o Beiriannau Gwasgu (steamrollers) a fyddant i'w gweld trwy'r sir a rhannau eraill o Gymru'n ystod y misoedd nesaf.

Gorchymyn Iaith - Cyfle i Fynnu'n Hawliau!

leanne-cy-caerdydd.jpgYn dilyn cyhoeddiad y Gorchymyn Iaith yn ddiweddar, mae'n fwriad gan Gymdeithas yr Iaith gynnal cyfarfodydd cyhoeddus ar hyd a lled Cymru.

Dilynwch esiampl yr Alban - Her i Lywodraeth y Cynulliad

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddilyn esiampl Yr Alban (gw. eu datganiad heddiw) trwy osod rhagdyb o blaid ysgolion bach. Yn ôl y Gymdeithas, byddai hyn yn gorfodi gwleidyddion a swyddogion 'diog' i gynllunio'n iawn ar gyfer ysgolion bach a byddai'n rhoi hwb newydd i rieni ac i gymunedau sy'n digalonni am ddyfodol eu hysgolion.

Ofcom yn dyfarnu trwydded newydd i wasanaeth radio uniaeth Saesneg

Yng nghanol prysurdeb y Nadolig, efallai na sylwodd nifer o bobl ar y cyhoeddiad bod Ofcom Cymru wedi dyfarnu trwydded radio masnachol newydd ar gyfer Gogledd a Chanolbarth Cymru. Real Radio yw deiliaid y drwydded newydd, a bydd eu gorsaf yn dechrau darlledu o fewn y ddwy flynedd nesaf - a hynny drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

Sion Corn yn Rhoi Rhestr Siopa'r Gymraeg i Siop Orange yn Aberystwyth

Sion CornGall Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ddatgelu bydd Sion Corn yn ymweld â siop ffoniau symudol 'Get Connected', Ffordd y Môr, Aberystwyth ddydd Sadwrn yma (13/12) am 1pm ac yn tynnu o'i sach rhestr o wasanaethau yr hoffai weld cwmni Orange yn darparu yn y Gymraeg. Fe fydd Sion Corn yn trosglwyddo'r rhestr i weithwyr y siop gan ofyn iddynt ei ddanfon ymlaen at gwmni Orange, yn ogystal a gofyn i'r siop i gefnogi galwad y Gymdeithas trwy fynnu gwasanaeth dwyieithog i'w cwsmeriaid.

Arestio chwech aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg

cyf cyffYn dilyn Cyfarfod Cyffredinol a Rali Genedlaethol lwyddiannus yn Aberystwyth, gyda dros 100 o bobl yn bresennol, cafodd chwech aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg eu harestio. Yn gyntaf fe arestiwyd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Rhys Llwyd yr Is- Gadeirydd Ymgyrchu am beintio'r slogan 'MESUR IAITH CYFLAWN' ar wal adeilad newydd y Cynulliad Cenedlaethol yn Aberystwyth.

Cymdeithas yr Iaith yn targedu Abbey Caerfyrddin ac Aberystwyth

Ble mae'r Gymraeg?Fe fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn picedi y tu fas i Banc Abbey yng Nghaerfyrddin ac yn Aberystwyth bore dydd Sadwrn y 18/10 am 11am. Cynhelir y picedi fel rhan o ymgyrch y Gymdeithas i atgoffa Llywodraeth y Cynulliad fod yn rhaid cynnwys y sector breifat o fewn unrhyw fesur iaith. Mae hyn yn digwydd mewn cyfnod tyngedfenol lle y disgwylir cyhoeddi LCO drafft yr iaith Gymraeg yn fuan.

Cymdeithas yn cyhuddo'r cyngor o dorri corneli

Cadwn Ein Hysgolion.JPGYn wyneb y pwysau brys i cau Ysgol Ysbyty Ystwyth mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cysylltu ag arweinydd Cyngor Ceredigion trwy lythyr, i ofyn a yw'n fwriad nawr gan y cyngor i dorri corneli yn ei hawydd i arbed arian trwy cael gwared ag ysgolion pentref. Cred y Gymdeithas fod y Cyngor wedi dwyn pwysau annheg yr wythnos hon ar rhieni'r ysgol.

Boots Ceredigion a Sir Gâr 93-95% Saesneg yn unig!

GweithredBootsLlambed.jpgFe baentiwyd sloganau ar ganghennau Boots yn Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan neithiwr yn dweud "95% Uniaith Saesneg" ac fe godwyd sticeri yn galw am Ddeddf Iaith Newydd ar ganghennau 'Boots' yn Aberystwyth, Castell Newydd Emlyn, Caerfyrddin, a Llanelli ac ar gangen Superdrug yn Aberystwyth a Chaerfyrddin.

Llwyddiant Addysgol Ysgolion Bach

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi tynnu sylw Gweinidog Addysg Cymru at lwyddiant ysgol fach 26 o blant yng Ngheredigion. Mae ysgol Dihewyd wedi derbyn adroddiad disglair gan y corff arolygu Estyn.