Ceredigion

Cymdeithas yr Iaith yn cwrdd â'r AS Mark Williams parthed S4C

cwrdd-gyda-mark-williams.jpgMae aelodau o Gymdeithas yr Iaith yng Ngheredigion wedi datgan eu siom yn dilyn cyfarfod a'r Aelod Seneddol, Mark Williams, ar ddydd Mawrth yr 28ain o Fedi, gan iddynt fethu a derbyn addewid diamwys ganddo y byddai'n pleidleisio yn erbyn unrhyw doriadau i gyllideb S4C.

Gadewch i'r Cyngor Llawn benderfynu ar ddyfodol ysgolion pentrefol

Cyn cyfarfod Cabinet Cyngor Ceredigion heddiw i drafod newid y broses ar gyfer adolygu dyfodol ysgolion pentref, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar i'r penderfyniad gael ei wneud gan y Cyngor Llawn.Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud mai cysyniad negyddol yw dewis ysgolion unigol ar gyfer adolygu, ac yn ffafrio yn hytrach adolygu pob ysgol yn gadarnhaol ardal wrth ardal er mwyn gweld sut y gellir eu datblygu yn gadarnhaol.

Ple olaf am Undod tu ol i gais Llandysul

Yn dilyn y bleidlais agos yn y Cyngor Llawn (17-14) wythnos diwethaf ynghylch y bwriad i gau holl ysgolion ardal Llandysul a sefydlu un ysgol i oedran 3-19. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gwneud ple olaf i aelodau cabinet Cyngor Sir Ceredigion cyn eu cyfarfod yfory (Mawrth 6/7).Fe alwodd y pwyllgor craffu addysg dydd Llun diwethaf ar y cabinet i ystyried alternatifs ar gyfer ardal Llandysul.

Gwyliwch! Mae'r Môr-Ladron yn dod at Eisteddfod yr Urdd!

Bydd haid o fôr-ladron ifainc yn dilyn map trysor draw at bafiliwn Cyngor Ceredigion wrth fod Cymdeithas yr Iaith yn dod â'r frwydr am ddyfodol ysgolion Pentrefol Cymraeg i faes Eisteddfod yr Urdd heddiw (Dydd Llun, Mai 31ain).Bydd y Gymdeithas yn portreadu swyddogion Cyngor Ceredigion yn fôr-ladron unllygeidiog sydd wedi adeiladu eu cestyll drudfawr eu hunain ar yr arfordir yn Aberystwyth ac Aberaeron ac yn awr yn ymosod ar cymunedau gwledig i geisio dwyn trysorau o drigolion lleol.Esboniodd trefnydd y Gymdeithas yn Nyfed, Angharad Clwyd:"Mae'r plant yn ymwisgo fel môr-ladron unllygeid

Cymdeithas yr Iaith yn galw ar bobl Ceredigion i wrthwynebu symud stiwdio Radio Ceredigion i Arberth

radio-ceredigion.gifMae Radio Ceredigion wedi'i gwerthu i Town and Country Broadcasting gan y Tindle Newspaper Group.

Rhieni yn cyflwyno deisebau i Gyngor Ceredigion

Cyflwyno DeisebMewn ymateb i gynlluniau arfaethedig Awdurdod Addysg Ceredigion i gau chwech o ysgolion cynradd yn ardal Llandysul ac Ysgol Uwchradd Dyffryn Teifi, mae rhieni pedwar o'r ysgolion wedi llunio deisebau a fydd yn cael eu cyflwyno tu allan i brif adeilad y Cyngor ym Mhenmorfa heddiw (Dydd Mercher, 3ydd Mawrth, 4pm).Dywed Angharad Clwyd, Trefnydd Dyfed Cymdeithas yr Iaith a rhiant yn Ysgol Llandysul:" Mae yna

Ceredigion yn bwrw 'mlaen â'u cynllun

Ymddengys bod y Cyngor Sir a'r ymgynghorwyr eisoes wedi rhoi eu bryd ar ysgolion ardal mawr 3-19 oed yn ardaloedd Llandysul a Thregaron, a'u bod yn rhoi'r cyfrifoldeb a'r baich o gyfiawnhau opsiynau eraill yn nwylo'r rhieni a llywodraethwyr.

Pump myfyriwr yn ymprydio dros ymgyrchydd

Mae pump myfyriwr prifysgol Aberystwyth yn ymprydio am 24 awr heddiw (Dydd Iau, 3ydd Rhagfyr) i ddangos cyd-gefnogaeth i ymgyrchydd a garcharwyd ar ôl iddo dargedu siopau mawrion yng ngogledd Cymru.Mae Cymdeithas yr Iaith yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau i gyd-fynd â charchariad aelod a ymgyrchodd yn erbyn polisi iaith rhai o gwmnïau amlwg y stryd fawr.

Picedu Cyngor er mwyn arbed cymuned Gymraeg

ceredigion.jpgBydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn picedu cynghorwyr ar eu ffordd i mewn i gyfarfod allweddol o Gyngor Ceredigion am 9am fore Mawrth (30/6) sy'n ailystyried y penderfyniad i gyhoeddi Rhybudd Statudol i gau Ysgol Syr John Rhys, Ponterwyd.Mewn neges at y cynghorwyr, dywed y Gymdeithas fod y broses o benderfynu cau'r ysgol bentrefol Gymraeg ym Mhonterwyd wedi bod mor frysiog ac mor wallus fel ei b

LCO yn rhwystro hawliau iaith yn y lle hwn!

sticeri-caerdydd.jpgRhoddwyd sticeri 'LCO yn rhwystro hawliau iaith yn y lle hwn' ar ffenestri siopau cadwyn ar strydoedd drwy Gymru yn ystod y nos neithiwr (nos Iau, 23ain o Ebrill) er mwyn tynnu sylw nad yw'r cwmnioedd a dargedwyd wedi eu cynnwys yn y Gorchymyn Iaith Gymraeg (LCO).Bydd Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth, yn ymddangos eto o flaen Pwyllgor Craffu'r Gorchymyn Iaith yr wythnos nesa,