Ceredigion

Myfyrwyr yn dyfarnu graddau i'r Prifysgolion

Coleg ffederal CymraegHeddiw, ar ddiwrnod canlyniadau semester un y myfyrwyr mi fydd y myfyrwyr eu hunain yn dyfarnu graddau i Brifysgolion Aberystwyth a Bangor.

Caffi'n Costa'n ddrud i gymuned Aberystwyth

Costa Coffee AberyswythFe fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn picedi Caffi Costa, Aberystwyth ddydd Llun 18/2/08, ar ddiwrnod ei agoriad, mewn protest oherwydd diffyg parch llwyr y cwmni at yr iaith Gymraeg a'r gymuned leol. Anwybyddwyd llythyr y Cyngor Tref a ofynodd i'r cwmni i gyflwyno arwyddion dwyieithog ac anwybyddwyd rheolau y Cyngor Sir a ddywed mai siopau yn unig sy'n cael agor ar stryd fawr Aberystwyth.

Ffilm newydd yng Nghyfarfod Blynyddol Cymdeithas yr Iaith

Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith 2008Am y tro cyntaf erioed dangosir ffilm yng Nghyfarfod Blynyddol Cymdeithas yr Iaith sy’n cychwyn am 10.30am Sadwrn nesaf (2/2) yng Nghanolfan y Morlan, Aberystwyth. Dangosir y ffilm “Diwrnodau Olaf Ysgol Mynyddcerrig” yn union cyn bod y Cyfarfod yn trafod cynnig i roi cefnogaeth weithredol i’r don gyntaf o ysgolion pentrefol Cymraeg sydd tan fygythiad yng Ngwynedd.

Rhaid ystyried anghenion pobl leol a'r iaith Gymraeg wrth ystyried cynllunio

bawd_deddf_eiddo.jpgCafodd cynghorwyr yng Ngheredigion eu beirniadu am ganiatáu ceisiadau cynllunio gan siaradwyr Cymraeg er bod argymhelliad i'w gwrthod.Dywedodd Angharad Clwyd, cadeirydd Rhanbarth Ceredigion, eu bod nhw'n cefnogi penderfyniad y cynghorwyr i gefnogi pobl leol.

Edrych Ymlaen at Gyfarfod Gyda'r Gweinidog Treftadaeth yn Dilyn Protest yn Aberystwyth

Rhodri Glyn ThomasAm dri chwarter awr heddiw bu 50 o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn protestio tu allan i Siop Morrisons yn Aberystwyth. Roedd presenoldeb cryf o'r heddlu yno a daeth y brotest i ben pan gyflwynodd Hywel Griffiths, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, lythyr i reolwr y siop. Hon oedd yr ail mewn cyfres o dair protest yn erbyn Morrisons a gynhelir gan y Gymdeithas.

Ateb Niwlog Rhodri ar fater Deddf Iaith

Rhodri MorganMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg o'r farn fod y Blaid Lafur yn graddol newid ei thiwn ar gwestiwn Deddf Iaith.

Cyngor Ceredigion yn cydnabod Saesneg fel iaith swyddogol

keith-evans-ceredigion.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb yn chwyrn i benderfyniad Bwrdd Gweithredol Cyngor Ceredigion i gyhoeddi pob adroddiad a dogfen ar eu gwefan yn Saesneg gyda nodyn y cant eu cyfieithu i'r Gymraeg fel y bydd adnoddau'n caniatau.

Arestio 4 ar ôl protest iaith

brantano-peacocks.jpgAm 12.30pm heddiw (Dydd Sadwrn 14/10), gorymdeithiodd tua 100 o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg draw at ‘Ystwyth Retail Park’, yn Aberystwyth, i gynnal Rali Brotest.

Galw ar wrthbleidiau'r Cynulliad i uno mewn ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd

gwyl-fawr-baner.jpgHeddiw (Sadwrn, Mehefin 10) yn ei Gwyl Fawr dros Ddeddf Iaith Newydd, a gynhelir yn y Neuadd Fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw ar bob un o wrthbleidiau’r Cynulliad i gydweithio er mwyn sicrhau bod y Llywodraeth Lafur yn ymateb i’r angen am Ddeddf Iaith Newydd.

Cymdeithas yr Iaith a'r Toriaid yn trafod Deddf Iaith Newydd

CeidwadwyrBore fory (Gwener 9/6/06), cynhelir cyfarfod pwysig rhwng Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a chynrychiolwyr o'r Blaid Geidwadol er mwyn trafod yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.