Eisteddfodau

'Tyrrwch yn llu' i Wrecsam - Gruff Rhys

separado.jpgMae'r seren bop Gruff Rhys yn annog Eisteddfodwyr i gael blas ar ei ffilm lwyddiannus am Batagonia yn ystod yr ?yl yn Wrecsam eleni.Mae Separado!, sydd yn daith bersonol i Gruff Rhys, yn rhoi Patagonia mewn cyd-destun diwylliannol ehangach yn yr Ariannin, ac yn pellhau ei hun oddi wrth y ffordd ramantus o ffilmio'r Cymry ym Mhatagonia.Bydd y ffilm yn cael ei ddangos yn yr Orsaf Ganolog yn Wrecsam ar

Dathlu 50 mlynedd o Brotest a Roc Cymraeg

disgo-mici-plwm.jpgMae Mici Plwm wedi cyhoeddi y bydd ei DISCO TEITHIOL enwog yn ôl ar y ffordd - ar y cledrau a dweud y gwir ! - mewn Noson fawr yng Nghlwb Gorsaf Ganolog Wrecsam yn yr Eisteddfod eleni.

Cofnod Cymraeg yn ein Cynulliad ni

cofnod-cymraeg-logo3.jpgCychwyn ymgyrch dros ddefnydd y Gymraeg yn y Cynulliad

Mae ymgyrchwyr iaith yn lansio ymgyrch arlein heddiw i gryfhau presenoldeb y Gymraeg yn y Cynulliad (Dydd Gwener, Mehefin 3).

Protest S4C - Rhaid i Cyw Fyw!

rhaid-i-cyw-fyw.jpgBydd bywyd y cymeriad teledu Cyw yn cael ei roi yn y fantol wrth i'r ymgyrch i achub S4C gyrraedd maes Eisteddfod yr Urdd yn Abertawe heddiw (Dydd Mawrth, Mai 31).Ymysg siaradwyr y brotest bydd Bethan Jenkins AC, llefarydd darlledu Plaid Cymru, a Keith Davies AC ar ran y blaid Lafur.

Sianel '62 - sianel deledu Gymraeg newydd!

Bydd sianel deledu Cymraeg newydd yn mynd yn fyw heddiw (Dydd Llun, Mai 30) mewn ymdrech i dynnu sylw at y bygythiadau i S4C.Y cyflwynydd teledu Angharad Mair, fydd yn lansio "Sianel 62" sy'n darlledu o babell Cymdeithas yr Iaith ac ar-lein yn ystod Eisteddfod yr Urdd eleni.

Digwyddiadau Cymdeithas yr Iaith yn 'Steddfod yr Urdd

Rhwng lansio sianel newydd, ymweliad gan 'Jeremy Hunt' a sawl digwyddiad arall bydd yn wythnos brysur iawn ym mhabell y Gymdeithas yr Iaith ar faes Eisteddfod yr Urdd tn Abertawe eleni, ac rydym yn eich gwahodd chi i fod yn rhan o'n holl weithgareddau dros yr wythnos:Dydd Llun 30ain Mai / 1pm / Pabell Cymdeithas yr IaithLansio Sianel '62 gydag Angharad MairBydd gan Gymdeithas yr Iaith ei sianel deledu ei hun ar gyfer wythnos yr Eisteddfod.

Gigs Eisteddfod Wrecsam Cymdeithas

2gigs-steddfod-wrecsam-2011.jpgLansiodd un o artistiaid mwyaf poblogaidd Cymru, Bryn Fôn, gigs Cymdeithas yr Iaith ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam heddiw (Dydd Gwener Mai 13) gan eu disgrifio fel y 'lein-yp mwyaf cyffrous ers blynyddoedd'.Mae'r gigs - a gynhelir ym mhrif glwb nos y gogledd, yr Orsaf Ganolog - yn dechrau ar Nos Sul gyda'r ffilm 'Separado!' a pherff

Gigs Cymdeithas Eisteddfod Wrecsam: rhan o weithredu cymunedol

logo-gigs-wrecsam-2011.jpgYn ystod y flwyddyn pryd y cyhoeddwyd araith "Tynged yr Iaith 2 - Dyfodol ein Cymunedau", mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi y bydd y gigs a gynhelir yn ystod wythnos yr Eisteddfod yn rhan o ymgyrchoedd gweithredu cymunedol.

Gwrthryfel yn erbyn Mesur Iaith y Llywodraeth yn yr Eisteddfod

Bydd ymgyrchwyr Cymraeg yn protestio ar Faes yr Eisteddfod heddiw (3pm, Dydd Mercher, 4ydd Awst) oherwydd gwendidau yn y ddeddfwriaeth arfaethedig ar y Gymraeg, gan alw am wrthryfel gan wleidyddion yn dilyn methiant y Llywodraeth i gadw at ei haddewidion.Ychydig wythnosau'n ôl, galwodd pwyllgor trawsbleidiol am newidiadau mawr i gynlluniau Llywodraeth y Cynulliad oherwydd diffyg egwyddorion yn y drafft.

Gwyliwch! Mae'r Môr-Ladron yn dod at Eisteddfod yr Urdd!

Bydd haid o fôr-ladron ifainc yn dilyn map trysor draw at bafiliwn Cyngor Ceredigion wrth fod Cymdeithas yr Iaith yn dod â'r frwydr am ddyfodol ysgolion Pentrefol Cymraeg i faes Eisteddfod yr Urdd heddiw (Dydd Llun, Mai 31ain).Bydd y Gymdeithas yn portreadu swyddogion Cyngor Ceredigion yn fôr-ladron unllygeidiog sydd wedi adeiladu eu cestyll drudfawr eu hunain ar yr arfordir yn Aberystwyth ac Aberaeron ac yn awr yn ymosod ar cymunedau gwledig i geisio dwyn trysorau o drigolion lleol.Esboniodd trefnydd y Gymdeithas yn Nyfed, Angharad Clwyd:"Mae'r plant yn ymwisgo fel môr-ladron unllygeid