Eisteddfodau

Tocynau Wythnos Gigs Steddfod Ar Werth Rwan!

gigs_steddfod_logo-bach.jpg Mae nifer cyfyngedig o docynau wythnos ar gyfer Gigs Steddfod Genedlaethol Eryri Cymdeithas yr Iaith rwan ar werth o wefan y Gymdeithas - www.cymdeithas.com/steddfod

Stondinwyr 'mewn gwlag'

Eisteddfod yr Urdd Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhuddo'r Urdd o'u halltudio i gwlag ar y maes nad oes fawr neb yn ymweld ag ef!

Dyfodol Darlledu Cymraeg

Ofcom a darlledu Am 3 o’r gloch prynhawn Dydd Iau, Mehefin 2il bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal Fforwm Drafod ar Ddyfodol Darlledu Cymraeg yn yr Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd.

Enillydd y Fedal Lenyddiaeth yn cymryd rhan mewn cyfarfod pwysig ar ddyfodol yr Iaith!

Bydd Catrin Dafydd - enillydd y Fedal lenyddiaeth yn yr Eisteddfod Dydd Llun, a Chadeirydd Grwp Deddf Iaith, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg - yn cymryd rhan yn y cyfarfod cyhoeddus pwysicaf a drefnir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ar Faes Eisteddfod yr Urdd eleni. Bydd y cyfarfod, o dan y teitl 'Deddf Iaith – Dyma’r Cyfle', yn cael ei gynnal yn yr Eglwys Norwyaidd am 3.30 prynhawn dydd Mercher Mehefin 1af.

Galw ar y gwrthbleidiau i drechu'r Llywodraeth er mwyn ysgolion pentrefol Cymraeg.

Cadwn Ein Hysgolion.JPG Mewn protest (3.30pm heddiw Llun 30/5) wrth uned Llywodraeth y Cynulliad ar faes Eisteddfod yr Urdd, bydd Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y gwrthbleidiau ac A.C’au Llafur sy’n gefnogol i ysgolion pentrefol i ymuno i drechu’r llywodraeth yn y Cynulliad, fel y llwyddwyd i’w wneud o ran ffioedd myfyrwyr yr wythnos ddiwethaf.

Cyfarfod gyda Jane Davidson yn Eisteddfod yr Urdd

Jane Davidson Yn wyneb gwrthodiad Jane Davidson unwaith yn rhagor i gwrdd ag ymgyrchwyr dros ysgolion pentrefol, cyhoeddwyd heddiw y bydd Cymdeithas yr Iaith yn trefnu’r cyfarfod ei hunan.

Adolygiadau o Gigs y Gymdeithas yn Steddfod Casnewyd 2004

Mattoidz Diolch yn fawr iawn i lowri Johnston a Gwefan BBC Cymru'r Byd am adolygu nifer o gigs y Gymdethas yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Ceir y dolenni at yr holl adolygiadau yma.

Cyfarfod Protest – Cyllidwch ein Cymunedau

deddf_eiddo.gif Am 2yh bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal cyfarfod protest er mwyn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i weithredu ar frys er mwyn lleddfu’r argyfwng tai. Gelwir arnynt i wneud hynny, trwy ddarparu cynnydd sylweddol yn y gyllideb tai, erbyn mis Tachwedd yma.

Cyfarfod Cyhoeddus - Y Gymraeg a'i hawliau

Meirion Prys Am 2yh heddiw, bydd Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr newydd, Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn cymeryd rhan mewn cyfarfod cyhoeddus wedi ei drefnu gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Bwriad y cyfarfod – ‘Y Gymraeg a’i Hawliau’ – yw i drafod yr angen am Deddf Iaith Newydd.