Eisteddfodau

Eisteddfod Cymdeithas yr Iaith

Trafod ein Cymunedau Cymraeg a degau yn gweithredu'n uniongyrchol yn erbyn y LlywodraethCafodd Cymdeithas yr Iaith wythnos fyrlymus arall yn herio'r Llywodraeth am y Gorchymyn Iaith ynghyd â thrafodaeth ddeinamig ar faes yr Eisteddfod ynghylch sut i greu cymuned Gymraeg gynaliadwy.1cyfarfodt-gen09.jpgCyfarfod 'Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy', Dydd Mercher Awst 5ed:Cafwyd ymateb da iawn

'Big Ben' yn cymryd rhan mewn Protest Iaith

protest-gen09.jpgDaeth dros 200 o aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith i brotest ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala heddiw, lle cyflwynwyd ddeiseb brys wedi'i arwyddo gan gefnogwyr yn yr wyl. Byrdwn y neges oedd yr angen i brysuro gyda'r gwaith o drosglwyddo pwerau deddfu dros y Gymraeg i Gymru.

Dros 100 yn mynychu Cyfarfod Cyhoeddus 'Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy'

cyfarfodt-gen09.jpgDaeth dros 100 o bobl i Gyfarfod Cyhoeddus 'Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy' ym Mhabell y Cymdeithasau, ar Faes Eisteddfod Genedlaethol y Bala heddiw. Dywedodd Hywel Griffiths arweinydd ymgyrch Cymunedau rhydd y Gymdeithas:"Ers rhai misoedd mae rhai o swyddogion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y cyd gyda thrigolion Penllyn wedi bod yn trafod y mater hwn.

Cynllunio logo y Coleg Ffederal ar Faes yr Eisteddfod

Am 2pm Llun 3ydd Awst, bydd Cymdeithas yr Iaith yn lansio cystadleuaeth logo ar gyfer y Coleg Ffederal Cymraeg y mae Llywodraeth y Cynulliad yn dweud eu bod yn y broses o'i sefydlu. Bydd Angharad Tomos - cartwnydd ac aelod blaenllaw o'r Gymdeithas - yn bresennol yn uned y Gymdeithas ar y maes i gynnal gweithdy ar gyfer myfyrwyr y dyfodol ar lunio logo. Mewn man arall o'r uned, bydd aelodau eraill yn cynllunio logo ar ffurf digidol ar gyfrifiadur.

Dafydd Iwan yn dod yn ôl at ei Wreiddiau

dafydd_iwan.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi trefnu wythnos lawn o weithgarwch gyda'r nos ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol y Bala.

Ymladd dros gymunedau Cymraeg cynaliadwy ar faes yr Eisteddfod

O'i huned (rhif 401 - 402) ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn arwain yr ymgyrch dros Gymunedau Cymraeg Cynaliadwy.Dywedodd Menna Machreth Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Ni ellir dianc rhag y ffaith fod yr Eisteddfod eleni yn agos iawn at Lyn Tryweryn. Boddi Cwm Celyn yn y chwedegau achosodd i'r Cymry sylweddoli o ddifrif pa mor ddiamddiffyn a bregus oedd eu cymunedau, ac mor fawr y perygl a wynebai'r iaith Gymraeg.

Pwyllgor Craffu: Mae dyfodol Hawliau Iaith ieuenctid Cymru yn eich dwylo chi

mur-deddf-iaith-urdd093.jpgHeddiw ar faes Eisteddfod yr Urdd, cyflwynodd aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg furiau yn llawn llofnodion a dyheadau bobl Cymru am fesur iaith cyflawn i Lywodraeth y Cynulliad.Casglwyd y canoedd o lofnodion dros y flwyddyn ddiwethaf, ac maent yn galw ar Bwyllgor Craffu'r Cynulliad i fynnu bod yr holl bwerau dros y Gymraeg yn cael eu trosglwyddo i Gymru.Erbyn Mehefin 5e

Agor cofrestr y Coleg Ffederal Cymraeg ar Faes Eisteddfod yr Urdd

Ar Ddydd Gwener, Mai 29ain am 12pm, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn agor cofrestr y Coleg Ffederal Cymraeg ar Faes Eisteddfod yr Urdd i bwysleisio fod y Coleg Cymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru gan wahodd darpar fyfyrwyr i gofrestru â'r Coleg.Wrth i ni aros am adroddiad Robin Williams a fydd yn argymell model o'r Coleg Ffederal Cymraeg i'r Gweinidog Addysg yn fuan iawn, mae Cymdeithas yr Iaith yn edrych ymlaen at sefydlu'r Coleg ac yn gwahodd disgyblion ysgol ac oedolion sydd am ddilyn cyrsiau addysg barhaus i gofrestru ar gwrs o'u dewis.Meddai Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr

Henffych Brifardd

Hywel Griffiths - Enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008Bu'n wythnos fywiog a chyffrous i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn yr Eisteddfod ac fe gychwynnodd ar nodyn cwbwl arbennig wrth i'n Cadeirydd, Hywel Griffiths, ennill y goron ar y dydd Llun cyntaf.Mae'r cerddi enillodd y goron iddo yn rhai arbennig ac yn ein llenwi â gobaith am ddyfodol Caerdydd, Cymru a'r Gymraeg.

Codi 'Ty Unos' ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol

bawd_deddf_eiddo.jpgEr mwyn tynnu sylw pobol Cymru at yr argyfwng ac nad yw bellach yn bosibl i bobl ifanc fyw yn eu cymunedau fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn codi 'Tŷ Unos' ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn ei gludo o'r uned i Uned Llywodraeth Cymru ar y Maes am 1 o'r gloch dydd Gwener Awst 8.