Morgannwg Gwent

LCO yn rhwystro hawliau iaith yn y lle hwn!

sticeri-caerdydd.jpgRhoddwyd sticeri 'LCO yn rhwystro hawliau iaith yn y lle hwn' ar ffenestri siopau cadwyn ar strydoedd drwy Gymru yn ystod y nos neithiwr (nos Iau, 23ain o Ebrill) er mwyn tynnu sylw nad yw'r cwmnioedd a dargedwyd wedi eu cynnwys yn y Gorchymyn Iaith Gymraeg (LCO).Bydd Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth, yn ymddangos eto o flaen Pwyllgor Craffu'r Gorchymyn Iaith yr wythnos nesa,

Cymdeithas yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor yn y Cynulliad

SeneddAm 9.30 dydd Mawrth Mawrth 17 fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Deddfwriaeth ar yr Iaith Gymraeg. Rhoddir y dystiolaeth ar ran y Gymdeithas gan Menna Machreth (Cadeirydd), Sioned Haf (Swyddog Ymgyrchoedd) a Sian Howys (Swyddog Polisi Deddf Iaith). Yn eu tystiolaeth fe fydd y Gymdeithas yn pwysleisio'r angen fod yn rhaid i'r Gymraeg gael statws swyddogol yng Nghymru.

Gorchymyn Iaith - Cyfle i Fynnu'n Hawliau!

leanne-cy-caerdydd.jpgYn dilyn cyhoeddiad y Gorchymyn Iaith yn ddiweddar, mae'n fwriad gan Gymdeithas yr Iaith gynnal cyfarfodydd cyhoeddus ar hyd a lled Cymru.

Hen Galan – Agwedd Ieithyddol Newydd

09rali-caerdydd-ion09.jpgYn dilyn bron i flwyddyn o ymgyrchu yn erbyn cwmnïau yn y sector breifat bu Cymdeithas yr Iaith yn cynnal rali yn y Brifddinas ar stryd fawr mwyaf Cymru heddiw i dynnu sylw'r busnesau mawr a'r Llywodraeth am yr angen am ddeddf iaith gynhwysfawr.Meddai Bethan Williams, Cadeirydd grŵp Deddf Iaith:"Rydyn ni wedi bod yn ymgyrchu'n galed dros y misoedd diwethaf gan lobio a gweithredu'n uniongyrchol yn erb

Henffych Brifardd

Hywel Griffiths - Enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008Bu'n wythnos fywiog a chyffrous i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn yr Eisteddfod ac fe gychwynnodd ar nodyn cwbwl arbennig wrth i'n Cadeirydd, Hywel Griffiths, ennill y goron ar y dydd Llun cyntaf.Mae'r cerddi enillodd y goron iddo yn rhai arbennig ac yn ein llenwi â gobaith am ddyfodol Caerdydd, Cymru a'r Gymraeg.

Codi 'Ty Unos' ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol

bawd_deddf_eiddo.jpgEr mwyn tynnu sylw pobol Cymru at yr argyfwng ac nad yw bellach yn bosibl i bobl ifanc fyw yn eu cymunedau fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn codi 'Tŷ Unos' ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn ei gludo o'r uned i Uned Llywodraeth Cymru ar y Maes am 1 o'r gloch dydd Gwener Awst 8.

Rhybudd Olaf Cymdeithas yr Iaith i’r Llywodraeth

Ble mae'r Gymraeg?Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno rhybudd olaf i Lywodraeth y Cynulliad ar faes yr Eisteddfod ddydd Iau y 7fed o Awst. Mae'r Gymdeithas hyd yn oed wedi gwahodd Alun Ffred Jones y Gweinidog Treftadaeth newydd i ymuno gyda hwy yn y gwrthdystiad.

Fideo o Rali Dathlu'r Gymraeg, Bae Caerdydd, Chwefror 2008

Daeth dros 300 o bobl i Rali Genedlaethol Cymdeithas yr Iaith dros Ddeddf Iaith Newydd y tu allan i adeilad y Cynulliad ym Mae Caerdydd Dydd Sadwrn 23ain Chwefror.

Rali Genedlaethol Dathlu'r Gymraeg

Rali Dathlu'r GymraegDaeth dros 300 o bobl i Rali Genedlaethol Cymdeithas yr Iaith dros Ddeddf Iaith Newydd y tu allan i adeilad y Cynulliad ym Mae Caerdydd Dydd Sadwrn 23ain Chwefror. Bwriad y Rali oedd cadw'r pwysau ar y llywodraeth i sicrhau Deddf Iaith Newydd gynhwysfawr ar ôl gweld y llywodraeth yn torri dau o addewidion Cymru'n Un yn ystod y misoedd diwethaf.

Diffyg ymateb gan Gyngor Abertawe

Cyngor Saesneg AbertaweMae Cyngor Abertawe dal i lusgo'i traed ynghylch ei polisi iaith yn y ddinas meddai aelodau Abertawe o Gymdeithas yr Iaith. Er gwaetha'r ffaith fod y Cyngor wedi datgan ar sawl achlysur ei bod yn hybu dwyieithrwydd yn y ddinas, yn ymarferol maent yn hollol ddiffygiol yn gwireddu hyn.