Morgannwg Gwent

Rali S4C: Achub unig sianel Gymraeg y byd

Daeth dros 2,000 i bobl i Rali gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Nghaerdydd heddiw, yn erbyn y toriadau arfaethedig i S4C a'r cynlluniau i'r BBC cymryd y sianel drosodd.ralis4c_panorama-bch.jpgYmysg y siaradwyr yr oedd Arweinydd Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones a'r Aelod Seneddol

SuperTed yn arwain protest S4C

superted-protest1.jpgRoedd SuperTed yn arwain protest yng Nghaerdydd heddiw yn erbyn cynlluniau'r Llywodraeth i dorri cyllideb S4C.Mae'r Llywodraeth clymblaid Ceidwadwyr- Democratiaid Rhyddfrydol yn bwriadu torri cyllideb yr unig sianel teledu Cymraeg a all olygu lleihad yn y gyllideb o rhwng 25% a 40% - er nad oes toriadau tebyg wedi'u bwriadu i ddarlledwyr eraill.Fe ddywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr y

Gwrthryfel yn erbyn Mesur Iaith y Llywodraeth yn yr Eisteddfod

Bydd ymgyrchwyr Cymraeg yn protestio ar Faes yr Eisteddfod heddiw (3pm, Dydd Mercher, 4ydd Awst) oherwydd gwendidau yn y ddeddfwriaeth arfaethedig ar y Gymraeg, gan alw am wrthryfel gan wleidyddion yn dilyn methiant y Llywodraeth i gadw at ei haddewidion.Ychydig wythnosau'n ôl, galwodd pwyllgor trawsbleidiol am newidiadau mawr i gynlluniau Llywodraeth y Cynulliad oherwydd diffyg egwyddorion yn y drafft.

Ysgol Treganna: "hollol annheg i adael Plant Cymraeg mewn limbo"

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhuddo Prif Weinidog Cymru o "adael plant mewn limbo" oherwydd y penderfyniad i wrthod gadael i Gyngor Caerdydd symud Ysgol Treganna i adeilad fwy o faint er mwyn darparu ar gyfer y galw cynyddol.Dywedodd Ffred Ffransis, Llefarydd Addysg Cymdeithas yr Iaith:"Mae'n hollol annheg fod yn rhaid i'r plant ddioddef oherwydd anallu gwleidyddion i ddyfeisio atebion cyfiawn i rai sy'n dymuno addysg Gymraeg ac i gymunedau lleol.

Cyfarfod Cyffredinol a Rali Flynyddol - 'Chwyldro Newydd yn y Cymoedd'

Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal Cyfarfod Cyffredinol a Rali Flynyddol y mudiad yng Nghanolfan Gymraeg Merthyr Tudful ar ddydd Sadwrn Hydref 24 gan gyhoeddi fod 'Chwyldro Newydd yn y Cymoedd'. Bydd y Cyfarfod Cyffredinol yn dechrau am 10.30 y bore a'r Rali Flynyddol am 2 y prynhawn.Dywedodd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Yr oeddem yn falch iawn felly o gael gwahoddiad gan ein haelodau ym Merthyr Tudful i gynnal Cyfarfod Cyffredinol 2009 yn y dref honno.

Cyfarfod Peter Hain i drafod y Gorchymyn Iaith

Heddiw am 2 o'r gloch bydd tri aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyfarfod Peter Hain yng Nghaerdydd i drafod y Gorchymyn Iaith. Y tri ar ddirprwyaeth y Gymdeithas fydd Menna Machreth (Cadeirydd), Bethan Williams (Arweinydd Ymgyrch Deddf Iaith y Gymdeithas) a Ffred Ffransis (Senedd Cymdeithas yr Iaith).Dywedodd Menna Machreth ar ran dirprwyaeth y Gymdeithas:"Byddwn yn pwysleisio fod y system o drin a thrafod y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar yr iaith Gymraeg wedi bod yn llafurus, hirwyntog a chymhleth.

Pwyllgor Craffu: Mae dyfodol Hawliau Iaith ieuenctid Cymru yn eich dwylo chi

mur-deddf-iaith-urdd093.jpgHeddiw ar faes Eisteddfod yr Urdd, cyflwynodd aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg furiau yn llawn llofnodion a dyheadau bobl Cymru am fesur iaith cyflawn i Lywodraeth y Cynulliad.Casglwyd y canoedd o lofnodion dros y flwyddyn ddiwethaf, ac maent yn galw ar Bwyllgor Craffu'r Cynulliad i fynnu bod yr holl bwerau dros y Gymraeg yn cael eu trosglwyddo i Gymru.Erbyn Mehefin 5e

Rali i fynnu hawliau i'r Gymraeg

Menna Machreth Rali CaerdyddDaeth dros 300 i rali a gynhaliwyd gan Gymdeithas yr Iaith tu allan i'r Senedd yng Nghaerdydd heddiw.

Rali Fawr mewn cyfnod allweddol yn y broses LCO

Bydd yr ymgyrch i ehangu sgôp y Gorchymyn Iaith (LCO) yn dod i'w benllanw Ddydd Sadwrn Mai 16eg pan fydd Rali Fawr yn cael ei chynnal gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg am 2pm tu allan i'r Senedd ym Mae Caerdydd.Caiff y Rali ei gynnal ar adeg tyngedfennol oherwydd mae Cymdeithas yr Iaith wedi clywed bydd aelodau o'r Pwyllgor Materion Cymreig yn cyfarfod â'r Pwyllgor Cymhwysedd Deddfwriaethol Rhif 5 (iaith Gymraeg) ar Ddydd Llun, Mai 18fed.Meddai Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:"Ers i'r Gorchymyn gael ei gyhoeddi ym mis Chwefror, mae consensws gref wedi datblygu ymysg pleidiau

Galw ar Alun Ffred Jones i fynnu bod pwerau llawn dros yr iaith Gymraeg yn dod i Gymru

posterrali.jpgMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn croesawu canlyniadau'r arolwg a gyhoeddwyd gan Fwrdd yr Iaith heddiw, sy'n dangos pwysigrwydd yr iaith i dros 80% o bobol Cymru. Mae'r arolwg yn dangos y gefnogaeth enfawr i normaleiddio'r Gymraeg, a'r awydd i greu Cymru ddwyieithog.