Rhoddwyd mechnïaeth i ddau aelod o Gymdeithas yr Iaith heddiw gan lys ynadon Caerdydd yn dilyn eu hymddangosiad ar gyhuddiad o Fyrgleriaeth - sef torri i mewn i swyddfa'r AS Torïaidd, sy'n cael ei rannu gan yr AC lleol, gyda'r bwriad o beintio slogan ar y wal yn galw am sicrwydd i ddyfodol S4C.