Fe dargedodd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg gwmniau preifat megis Focus, Lidl a Coral am yr eildro yng Nghaerdydd dros nos, gan orchuddio’r ffenestri â sticeri gludiog, sydd yn gofyn ‘Ble mae’r Gymraeg?’
Neithiwr (nos Sul/bore Lun 17/10/04 –18/10/04), yng Nghaerdydd, targedodd aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg sawl cwmni preifat – (banciau, archfarchnadoedd, arwerthwyr tai, siopau cadwyn ayb) – gan orchuddio eu ffenestri â sticeri gludiog, sydd yn gofyn ‘Ble mae'r Gymraeg?'
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ysgrifennu at Rhodri Morgan i gwyno nad yw cyllideb ddrafft y Cynulliad yn cynnwys unrhyw strategaeth dros y tair blynedd nesaf i alluogi Cymry ifanc i gael tai yn eu cymunedau lleol.
Am 2yh bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal cyfarfod protest er mwyn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i weithredu ar frys er mwyn lleddfu’r argyfwng tai. Gelwir arnynt i wneud hynny, trwy ddarparu cynnydd sylweddol yn y gyllideb tai, erbyn mis Tachwedd yma.
Am 2yh heddiw, bydd Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr newydd, Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn cymeryd rhan mewn cyfarfod cyhoeddus wedi ei drefnu gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Bwriad y cyfarfod – ‘Y Gymraeg a’i Hawliau’ – yw i drafod yr angen am Deddf Iaith Newydd.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cwestiynu’r penderfyniad Awdurdodau’r Steddfod i roi safle ar y maes i Sky TV. Ymddangosent gydag arddangosfa symudol mewn prif safle wrth y Pafiliwn Ddydd Sadwrn. Roedd eu harddangosfa gosod a rhyngweithiol oll yn uniaith Saesneg haeblaw am 1 poster bach o waith cartre’n gwahodd Eisteddfodwyr i wylio gemau rhyngwladol pêl-droed Cymru’n fyw ar Sky yn y dyfodol.
Am 2pm heddiw, wrth Uned Prifysgol Cymru ar Faes yr Eisteddfod, bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal Seremoni Gyhoeddi ein COLEG FFEDERAL CYMRAEG AR DAITH. Yn uchafbwynt i’r seremoni, bydd Catrin Dafydd (Llywydd U.M.C.A. 2003-4 ac arweinydd yr ymgyrch dros Goleg Cymraeg) yn darllen “Siarter Gymdeithasol” (yn hytrach na brenhinol !) ein Coleg Ffederal Cymraeg ar daith.
Er mwyn pwysleisio yr angen am ymgyrchu effeithiol, er mwyn ymateb i argyfwng y Gymraeg, bydd Cymdeithas yr Iaith yn lansio apel ariannol. Bydd y mudiad yn gwahodd aelodau a chefnogwyr i lenwi archebion banc sylwddol er mwyn cynnig sail gadarn i ymgyrchoedd y dyfodol.
Sut le fydd Cymru erbyn y flwyddyn 2020? Dyna fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ei holi i’r bobl hynny a fydd yn ymweld â maes yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghasnewydd yn ystod yr wythnos nesaf.
Bydd gig mwyaf calendr y sin roc Gymraeg yn dod a digwyddiadau’r Eisteddfod i ben eleni wrth i fand mwyf poblogaidd Cymru ryddhau eu EP newydd ar nos Sadwrn olaf Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd. Bydd Anweledig yn cynnal Parti Lansio eu CD diweddaraf, Byw, yng Nghlwb Pont Ebwy, sef prif ganolfan gigs Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y ‘Steddfod!