Gwynedd Mon

Lansio "Taith Tynged yr Iaith"

07/06/2012 - 14:00

2yp, Dydd Iau, 7fed Mehefin - Stondin Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Fel rhan o ddathliadau hanner canmlwyddiant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg byddwn yn teithio ar draws y wlad er mwyn gweithio gyda'n cymunedau i wrthdroi dirywiad cymunedau Cymraeg ac annog cymunedau i ymuno gyda Chynghrair Cymunedau Cymru er mwyn eu galluogi i lobio'n rymus dros ddyfodol ein cymunedau.

Bethan Williams (Cymdeithas yr Iaith Gymraeg), Meirion Davies (Menter Ogwen) ac eraill

Noson Gynghrair Cymunedau Cymru: Mentrau Cydweithredol

06/06/2012 - 19:30

7.30, Nos Fercher, 6ed Mehefin - Neuadd Goffa Pen-y-Groes
Noddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dyma gyfarfod lansio Cynghrair Cymunedau Cymru. Yn ystod y noson fe fyddwn yn canolbwyntio ar fentrau cydweithredol gyda chyflwyniadau gan grwpiau unigol a thrafodaeth panel. Hefyd, mi fydd Dr Carl Clowes yn lansio ei lyfr 'Cryfder ar y Cyd' ar y pwnc. Bydd siaradwr o Iechyd Cyhoeddus Cymru yn sôn am y perthynas rhwng cymunedau hyfyw ac iechyd.

Pengwern Cymunedol, Saith Seren, Dyffryn Nantlle 20/20, Antur Stiniog, Antur Ogwen

Darperir lluniaeth

Cyflwyno'r Llyfr Du i Gomisiynydd y Gymraeg

08/06/2012 - 14:00

2yp, Dydd Gwener, 8ed Mehefin
Stondin Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Mi fydd y Gymdeithas yn cyflwyno llyfryn i Gomisiynydd y Gymraeg sy'n cynnwys enghreifftiau unigolion o'u problemau gyda gwasanaethau Cymraeg.

Meri Huws, Hywel Williams AS, Jerry Hunter, Judith Humphreys, Ceri Phillips

Trwy ddulliau chwyldro…? Hanner can mlynedd o ymgyrchu iaith - cynhadledd

16/11/2012 - 09:00

Trwy ddulliau Chwyldro...? Hanner can mlynedd o ymgyrchu iaith

Dyma gynhadledd a fydd yn cynnig cyfle i gloriannu’n feirniadol effaith a dylanwad yr ymgyrchu a welwyd mewn perthynas â’r iaith Gymraeg dros yr hanner canrif diwethaf ar fywyd gwleidyddol a diwylliannol Cymru. Fe’i trefnir ar y cyd gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, a Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, Prifysgol Aberystwyth.

Dyddiad: 16-17 Tachwedd

Lleoliad: Neuadd Reichel, Safle Ffriddoedd, Prifysgol Bangor

Rali Wylfa B: Brwydr teulu yn frwydr dros gymunedau Cymraeg

Mae'r frwydr dros ddiogelu tir teulu o Ynys Môn yn ficrocosm o’r frwydr dros gymunedau Cymraeg, dyna fydd neges rali yn erbyn datblygu atomfa niwclear newydd yn y sir heddiw.

Rhanbarth Gwynedd-Môn

Cadeirydd: i'w benodi

Cyfarfodydd Rhanbarth

Rydym fel rhanbarth yn ceisio cyfarfod yn fisol. Mae croeso i bawb – nid oes rhaid bod yn aelod o'r Gymdeithas. Cysylltwch i ddarganfod pryd a ble mae'r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal.

Gelli di helpu?

Mae angen cyson am dynnu sylw at ddiffygion y Gymraeg ym mhob maes, ac rydym angen cefnogaeth. Er mai yng Ngwynedd a Môn mae'r canran uchaf o siaradwyr Cymraeg, yma mae'r bygythiad mwyaf hefyd. Felly os oes gennych amser i'w roi, mae digon o waith i'w wneud!

Digwyddiadau Gwynedd-Môn