Gwynedd Mon

Cell Celf Caernarfon

10/02/2018 - 13:00

Dydd Sadwrn yma!! Sesiwn Celf mewn ymateb i faterion gwleidyddol yng Nghymru.

This Saturday!! Art session in response to political issues in Wales.

Lle? Balaclafa, Caernarfon, LL55 1, United Kingdom

Cyfarfod Rhanbarth Gwynedd a Môn - Porthmadog

19/02/2018 - 19:30

Cyfarfod Rhanbarth Gwynedd a Mon - dewch i drafod y Gymdeithas yn ranbarthol.

Y tro yma byddwn yn cwrdd ym Mhorthmadog yn Nhafarn Pencei, LL49 9AT ar y 19fed o Chwefror am 7:30 yh.

Croeso i bawb.

"150 o Dai – I BWY?" Cyfarfod Cyhoeddus ym Mhenrhyndeudraeth

08/02/2018 - 19:00

150 o Dai – I BWY?   

Dyna'r cwestiwn a drafodir yn y Neuadd Goffa, Penrhyndeudraeth  7.00 – 9.00 Nos Iau, Chwefror 8ed.

Siaradwyr: Elfed Roberts, Menna Machreth, Siân Cŵper

Fis Gorffennaf, 2017, daeth chwe mlynedd o ymgyrchu gan Gymdeithas yr Iaith i ben wrth i Gyngor Gwynedd bleidleisio dros y Cynllun Datblygu Lleol.O un bleidlais, pasiwyd cynllun i godi wyth mil o dai yng Ngwynedd a Môn erbyn 2026.

Cyfarfod Tyfu Nid Torri

23/01/2018 - 19:30

Mae’r toriadau yn lladd. Mae 10 mlynedd arall o lymder (toriada) o’n flaen, gyda chyflogau wedi rhewi am 20 mlynedd a’r system les ddim yn ffit i bwrpas rhagor. Yng Ngwynedd, mae pobl ifanc yn wynebu toriadau mawr i’r gwasanaeth ieueuctid. Yr unig peth mae Arweinydd y Cyngor yn gaddo yw mae mwy i ddod.

Mae rhaid i ni gwffio yn ol. Wrth i ni geisio creu strategaeth dros y ffordd mwyaf cadarn i gyrraedd y nod rhaid edrych i’r gorffennol a thu hwnt ein finiau.

Gweithio'n fewnol yn Gymraeg - Cam mawr ymlaen yn Ynys Môn

Mae mudiad iaith wedi llongyfarch cynghorwyr Ynys Môn ar bleidleisio o blaid symud yr awdurdod lleol at weinyddu'n fewnol drwy'r Gymraeg yn unig.

Meddai Menna Machreth o ranbarth leol Cymdeithas yr Iaith:

Gweinyddiaeth Gymraeg Cyngor Ynys Môn - galw i wrthwynebu cynnig i'w danseilio

Mae mudiad iaith wedi galw ar i gynghorwyr wrthwynebu cynnig i wrthdroi polisi Cyngor Sir Yn

Lansiad Albwm 'O Hiraeth i Saudade'

03/02/2018 - 19:30

Cerddoriaeth acwstig a naws Brasil gan Simon Chandler gyda Jamie Bevan

7:30 yh nos Sadwrn 3ydd o Chwefror 2018

Oriel Caffi Croesor @ Cnicht Croesor, LL486SS

Tocynnau: £5

Lobsgows (opsiwn lysieuol ar gael) £5 gyda diod meddal. Dewch a'ch diod meddwol eich hunain!

Elw'r albwm a'r noson i Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

 

 

Gig 'Dolig Tyfu Nid Torri

21/12/2017 - 19:00

Yr Albert, Caernarfon 19:00 Nos Iau 21eg o Ragfyr

Tyfu Nid Torri: Goroesi'r Torriadau

05/12/2017 - 18:00

Caffi Gisda Caernarfon, 5/7/17 am 6yh

Mae’r toriadau yn lladd. Mae 10 mlynedd arall o lymder o’n flaen, gyda chyflogau wedi rhewi am 20 mlynedd. Yng Ngwynedd, mae pobl ifanc yn wynebu toriadau mawr i’r gwasanaeth ieueuctid. Yr unig peth mae Arweinydd y Cyngor yn gaddo yw mae mwy i ddod.

Mae rhaid i ni gwffio yn ol. Wrth i ni geisio creu strategaeth dros y dull mwyaf cadarn i gyrraedd y nod rhaid edrych i’r gorffennol a thu hwnt ein finiau.

Cyfarfod Rhanbarth Gwynedd a Mon

11/12/2017 - 19:00

Dewch yn llu! Rydym yn trefnu yn erbyn y toriadau, dros gig 'dolig, yn erbyn tai anffordiadwy a dros unoliaeth gyda Chatalwnia!

Fynnu grisiau Palas Print am 7yh nos lun yr 11fed o Ragfyr. Cysyltlwch a gogledd@cymdeithas.cymru am fwy o wybodaeth.