Gwynedd Mon

366 tŷ ym Mangor - penderfyniad pwy?

11/08/2017 - 14:00

366 tŷ ym Mangor - penderfyniad pwy?

2yp, Dydd Gwener 11fed o Awst, Stondin y Gymdeithas

Siaradwyr: Menna Machreth, Osian Owen, Cyng. Elin Walker Jones ac Ieu Wyn

Derbyniad caws a gwin i aelodau a chelloedd y Gymdeithas

10/08/2017 - 17:00

Derbyniad caws a gwin i aelodau a chelloedd y Gymdeithas

5yp, Dydd Iau 10fed Awst, Stondin y Gymdeithas

Croeso i bawb!

Datganoli darlledu - Boicotio’r Ffi Drwydded

10/08/2017 - 14:00

Datganoli darlledu - Boicotio’r Ffi Drwydded

2yp, dydd Iau 10fed Awst, Stondin y Gymdeithas

Siaradwyr: Angharad Tomos, Heledd Gwyndaf ac eraill

Deddfu a’r Gymraeg

09/08/2017 - 14:30

Deddfu a’r Gymraeg

2:30yp, Dydd Mercher 9fed Awst, Pabell y Cymdeithasau 2

Siaradwyr: Y Bargyfreithiwr Gwion Lewis, Meri Huws (Comisiynydd y Gymraeg), Heledd Gwyndaf (Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith) a Gweinidog y Gymraeg Alun Davies AC

Addysg Gymraeg i bawb ym Mon? Parti neu Brotest?

08/08/2017 - 14:00

Addysg Gymraeg i bawb ym Mon? Parti neu Brotest?

2yp, Dydd Mawrth 8fed o Awst, Stondin y Gymdeithas

Siaradwyr: Toni Schiavone, Gwion Morris Jones ac eraill

Dyfodol cymunedau'r diwydiant amaeth ôl Brexit

07/08/2017 - 14:00

Dyfodol cymunedau'r diwydiant amaeth ôl Brexit

2yp dydd Llun 7fed o Awst, Stondin y Gymdeithas

Siaradwyr: Glyn Roberts Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Alun Elidyr, Iwan Huws Fferm Penrhos ac eraill

Cymunedau Cynaliadwy - Cyfarfod Agored

09/07/2017 - 15:00

3 o'r gloch Prynhawn Sul, Gorffennaf 9fed

Palas Print, Caernarfon LL55 1RR

Cyfarfod arbennig o grŵp Cymunedau Cynliadwy y Gymdeithas, i drafod NCT20 - Nodyn Cynllunio Technegol y Llywodraeth ynglŷn â'r Gymraeg; sut byddem yn pwyso am ei gryfhau, a'r perthynas ag ymgyrchoedd yn erbyn datblygiad Wylfa B, a'r ymgyrchoedd i sicrhau bod Cynlluniau Datblygu Lleol yn gwarchod cymunedau Cymraeg.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â post@cymdeithas.cymru

366 o dai ym Mangor: 'dim ots gan y Gweinidog am y Gymraeg'

Mae mudiad iaith wedi collfarnu'r awgrym gan y Gweinidog Lesley Griffiths y bydd hi'n caniatáu adeiladu 366 o dai ym Mangor.   <

Gigs ‘Steddfod Môn - Bryn Fôn, Geraint Jarman, Kizzy a Tudur Owen

 

Bydd Bryn Fôn, Kizzy Crawford, Geraint Jarman a Tudur Owen ymysg y prif berfformwyr yn ystod wythnos o gigs amgen sy’n cael eu trefnu gan garedigion yr iaith ar Fferm Penrhos, Bodedern yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn.

[Cliciwch yma i brynu tocynnau]

Noson Gwis Cymru Rydd

10/08/2017 - 19:30

Noson i Ddathlu Amrywiaeth

7:30, Nos Iau 10fed Awst 2017

Fferm Penrhos, Bodedern LL65 3TA

Nid oes cerddoriaeth fyw ‘na bar ar y Nos Iau am resymau trwydded, ond mae croeso i bobl ddod â’u diodydd eu hunain i’r cwis. Croeso i bawb - tâl yn ôl tîm.

Gallech brynu tocyn gostyngol ar gyfer holl adloniant y Gymdeithas yn yr wythnos a llefydd ar ein maes gwersylla yma