Gwynedd Mon

Cyfarfod Cell Penygroes

02/11/2015 - 19:30
Neuadd Goffa Penygroes
 
Sgwrs am yr hyn mae pobl lleol Penygroes eisiau ei wneud dros y Gymraeg yn yr ardal – boed hynny'n ymgyrchoedd a/neu trefnu digwyddiadau fel gigs ayyb.
 
Bydd cyflwyniad bras yn egluro beth yw Cymdeithas yr Iaith, ynghyd â chyflwyniad bras i’r ymgyrchoedd cyfredol cenedlaethol a’r ymgyrchoedd sy’n digwydd yn rhanbarth Gwynedd a Môn.
 
Croeso i bawb, dewch yn llu!

Cyfarfod Rhanbarth Gwynedd a Môn

26/10/2015 - 19:00

Ystafell Gyfarfod uwchben siop Palas Print Caernarfon

Cysylltwch â Bethan Ruth ar gogledd@cymdeithas.org neu 01286 662 908 os am fwy o wybodaeth

Cyfarfod Cyntaf Cell Myfyrwyr Bangor

05/10/2015 - 17:00

Bar Uno, Bangor

 

Sgwrs anffurfiol o’r hyn mae myfyrwyr eisiau ei wneud dros y Gymraeg – boed hynny yn ymgyrchoedd a/neu trefnu digwyddiadau fel gigs ayyb.

Bydd cyflwyniad bras yn egluro beth yw Cymdeithas yr Iaith, ynghyd â chyflwyniad bras i’r ymgyrchoedd cyfredol cenedlaethol a’r ymgyrchoedd sy’n digwydd yn rhanbarth Gwynedd a Môn.

Croeso i bawb, dewch yn llu!

Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd a Môn

08/09/2015 - 19:30

Yr Institiwt, Caernarfon

Cyfle i gyfarfod â Swyddog Maes newydd y gogledd

Croeso i gefnogwyr hen a newydd y Gymdeithas yn yr ardal!

Cyfarfod Rhanbarth Gwynedd a Môn

12/05/2015 - 19:30

Nos Fawrth Mai 12fed am 7:30pm uwchben Palas Print, Caernarfon

Y prif eitem ar yr agenda fydd parhau â'r ymgyrch yn erbyn y Cynllun Datblygu Lleol. Mae nifer o bethau eraill i'w trafod hefyd fel ymgyrch yn erbyn Wylfa, be ni eisiau i'r swyddog newydd ganolbwyntio arno ac ati! Croeso i holl gefnogwyr newydd a hen y Gymdeithas yn yr ardal!

Datblygiadau Tai Ynys Môn - cyfarfod cyhoeddus

24/03/2015 - 19:30

Oes angen 833 o dai yn Caergybi? 673 yn Llangefni?

A channoedd yn fwy yn y sir?

Tyrd draw i weld y cynllun ac i leisio dy farn.

Nos Fawrth – Mawrth 23ain

Tafarn y Bull, Llangefni 7.30

Beth am i ti yrru e-bost i ymghynghoriad y cynllun tai yma -

http://cymdeithas.cymru/ebost/cynllunio-er-budd-ein-cymunedau-cymraeg

Cartrefi Cymunedol Gwynedd - penodi dau uwch swyddog di-Gymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb gyda siomedigaeth i'r newyddion bod dau gyfarwyddwr di-gymraeg wedi eu penodi gan Gartrefi Cymunedol Gwynedd.

8000 o dai newydd: Cyfarfod cyhoeddus ym Mhenygroes

Wrth i 'ymgynghoriad' Cyngor Gwynedd ar y cynllun datblygu barhau, bydd ymgyrchwyr yn cynnal cyfarfod cyhoeddus yn Nyffryn Nantlle ddydd Iau yma (19 Mawrth) i ddangos sut mae mynd ati o ddifri i gael barn pobl leol.

Cymdeithas yn galw ar i Gomisiynydd y Gymraeg ymyrryd

Wythnos i fewn i gyfnod ymgynghorol cynllun datblygu lleol Gwynedd a Môn, mae
ymgyrchwyr iaith wedi galw ar i Gomisiynydd y Gymraeg ymyrryd yn y broses gan
fod yr asesiad iaith a gyhoeddwyd gan y siroedd yn ‘annibynadwy’.

Credant nad yw Cyngor Gwynedd a Môn yn gallu profi bod adeiladu 7,902 ‘yn
annhebygol o gael effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg’.

Meddai Menna Machreth, Cadeirydd Rhanbarth Gwynedd a Môn: