Gwynedd Mon

Gwrthod tai Penrhosgarnedd "yn gynsail"

Mae ymgyrchwyr iaith wedi ymateb i'r newyddion fod yr arolygaeth gynllunio wedi gwrthod

Ple i ail-ystyried penderfyniad 'niweidiol' i gau clybiau ieuenctid Gwynedd

Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw ar Gabinet Cyngor Gwynedd i oedi eu penderfyniad i gau clybiau ieuenctid Gwynedd am flwyddyn er mwyn ail-ystyried y cynllun, gan rybuddio bod y penderfyniad yn 'yn niweidiol i les pobl ifanc a'u dyfodol, ac i'r iaith Gymraeg fel iaith gymunedol'. 


Fe wnaeth cabinet y cyngor sir benderfyniad wythnos ddiwethaf i gau pob un o'r 39 clwb ieuenctid erbyn Y Pasg eleni, a chael un clwb fyddai'n gwasanaethu'r sir gyfan yn eu lle.

Cyfarfod Rhanbarth Gwynedd a Môn

19/03/2018 - 20:00

Yng ngoleuni argaeledd pobl a'r digwyddiadau brys o ran y toriadau yng Ngwynedd:

https://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/gwynedd-council-axe-yo...

Byddwn yn cwrdd NOS LUN y 19eg o Fawrth yn Nhafarn Pencei am 8yh ym Mhorthmadog LL49 9AT.

Bydd pwyslais ar drafod y torriadau yn arbennig yn y cyfarfod yma.

Tyfu nid Torri: Gweithdy Dad-Goloneiddio ein Hunain

25/04/2018 - 19:00

 chyffro mae Tyfu nid Torri mewn partneriaeth a Fforwm yr Eliffant Binc yn cyflwyno sesiwn dad-goloneiddio gan criw Radio Beca.

Llangefni: Tai i Bwy?

19/04/2018 - 19:00

Ym mis Gorffennaf 2017 ddoth chwe blynedd o ymgyrchu i’r fei gyda Chyngor Môn yn pleidleisio dros y cynllun datblygu lleol.

Ffonio, postio a chacen

28/02/2018 - 18:00

Mae gwaith ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith yn dibynnu ar ein haelodau - ac mae angen eich help i ddod o hyd i fwy! Dewh draw i swyddfa'r gymdiethas yn y gogledd i fod yn rhan o'r ymgyrch trwy'n helpu i bostio a ffonio cyn aelodau.

Os hoffech chi helpu rhywle arall neu ar amser arall rhowch wybod!

Os dewch chi i'r swyddfa, gallwn ddarparu sgript, cefnogaeth a lluniaeth ysgafn - gan gynnwys cacenau gwych!

Cell Celf Caernarfon

10/02/2018 - 13:00

Dydd Sadwrn yma!! Sesiwn Celf mewn ymateb i faterion gwleidyddol yng Nghymru.

This Saturday!! Art session in response to political issues in Wales.

Lle? Balaclafa, Caernarfon, LL55 1, United Kingdom

Cyfarfod Rhanbarth Gwynedd a Môn - Porthmadog

19/02/2018 - 19:30

Cyfarfod Rhanbarth Gwynedd a Mon - dewch i drafod y Gymdeithas yn ranbarthol.

Y tro yma byddwn yn cwrdd ym Mhorthmadog yn Nhafarn Pencei, LL49 9AT ar y 19fed o Chwefror am 7:30 yh.

Croeso i bawb.

"150 o Dai – I BWY?" Cyfarfod Cyhoeddus ym Mhenrhyndeudraeth

08/02/2018 - 19:00

150 o Dai – I BWY?   

Dyna'r cwestiwn a drafodir yn y Neuadd Goffa, Penrhyndeudraeth  7.00 – 9.00 Nos Iau, Chwefror 8ed.

Siaradwyr: Elfed Roberts, Menna Machreth, Siân Cŵper

Fis Gorffennaf, 2017, daeth chwe mlynedd o ymgyrchu gan Gymdeithas yr Iaith i ben wrth i Gyngor Gwynedd bleidleisio dros y Cynllun Datblygu Lleol.O un bleidlais, pasiwyd cynllun i godi wyth mil o dai yng Ngwynedd a Môn erbyn 2026.