Gwynedd Mon

Ysgol arall ym Môn dan fygythiad – galw am her gyfreithiol

Mae mudiad iaith wedi galw am her gyfreithiol i gynnig Cyngor Ynys Môn i gau Ysgol Talwrn.      

Dywedodd Ffred Ffransis ar ran grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith  

Cyfarfod Trefnu Gig Mawr Roc Dros Datganoli Darlledu!

11/07/2018 - 13:00

Byddwn yn cwrdd ar y cyd gyda rhai o aelodau Yes Cymru ynglyn a trefnu gig dros datganoli darlledu.

Croeso i bawb! Byddwn yn Caffi Gisda am 1yh

Pobl Atal Wylfa B - mynd a'r frwydr i Siapan!

17/07/2018 - 19:00
Dewch i glywed am y frwydr yn erbyn atomfa newydd yn y Wylfa, Ynys Môn.
 

Cyfarfod ymgyrch Tai Penrhyndeudraeth

27/06/2018 - 19:00

Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth yn stafell Sbardun am 7yh. Ymunwch a'r ymgyrch yn erbyn tai di-angen ym Mhenrhyndeudraeth!

 

 

Cyfarfod Rhanbarth Gwynedd a Môn

11/06/2018 - 19:00

Croeso cynnes i bawb!

Byddwn yn cwrdd am 7yh yn swyddfa'r Gymdeithas, 10 stryd y Palas, Caernarfon ar nos lun yr 11fed o Fehefiin.

Ffoniwch 01286 662908 am fwy o wybodaeth.

 

Cyfarfod Pwyllgor Trefnu: Roc Dros Ddatganoli Darlledu - Caernarfon

14/05/2018 - 18:30

Byddwn yn cwrdd yn Bar Bach Caernarfon am 6:30pm i drafod trefnu gigs i godi ymwybyddiaeth am yr ymgyrch dros ddatganoli darlledu i Gymru.

Cyfarfod Cyhoeddus: Cadwn ein Hysgolion a'n Pentrefi Cymraeg

24/05/2018 - 19:30

Bydd cyfarfod agored ar nos Iau y 24 o Fai am 7.30yh yn Neuadd Talwrn i drafod y bygythiad i Ysgolion cynradd yn Sir Fôn.

Croeso i bawb ar draws yr ynys er mwyn dod at ein gilydd a ffurfio ffrynt unedig yn erbyn y bygythiad parhaus i'r ysgolion o dy'r cyngor.

Bydd angen help i hyrwyddo'r cyfarfod brys yma - os allwch helpu gwneud hyn ewch amdani. Am adnoddau fel taflenni cysylltwch â gogledd@cymdeithas.cymru

Croesawu penderfyniad pwyllgor i beidio â chau ysgolion gwledig Môn

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu penderfyniad pwyllgor craffu Cyngor Ynys Môn i beidio â chau tair ysgol wledig.   

Cadwn ein Clybiau

03/05/2018 - 12:00

'CADWN EIN CLYBIAU'

12:00 ar y 3ydd o Fai, Prif Adeilad Cyngor Gwynedd, Caernarfon.

Byddwn yn cyflwno'r ddeiseb yma cyn y cyfarfod Cyngor:

https://www.change.org/p/cyngor-gwynedd-cadwch-clybiau-ieuiectid-gwynedd...