Mae miloedd wedi dod i ralïau "Nid yw Cymru ar Werth" Iaith ar argae Tryweryn, o flaen y Senedd ac ar Bont Trefechan wrth i bobl ifanc gael eu gorfodi o'u cymunedau oherwydd ddiffyg tai i'w prynu na'u rhentu am bris rhesymol.
Cafwyd llwyddiant wrth i'r Llywodraeth gyflwyno grymoedd newydd i reoli ail gartrefi a llety gwyliau. Rydyn ni'n disgwyl i awdurdodau lleol ddefnyddio'r grymoedd yn llawn, gan y bydd y Torïaid a'r cyfoethog yn gwrthwynebu'n ffyrnig.