Deddf Iaith

Ymateb i Gomisiwn Richard: Deddf Gyntaf - Deddf Iaith Newydd

comisiwnrichard.jpg Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn croesawu cyhoeddi Adroddiad Comisiwn Richard ar Bwerau a Threfniadau Etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, aír argymhelliad y dylai fod gan y Cynulliad hawliau deddfu.

Protest Deddf Iaith Bangor

Bu aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal y ddiweddaraf mewn cyfres o brotestiadau Deddf Iaith ym Mangor dydd Sadwrn Mawrth 13eg. Cynhaliwyd protestiadau tebyg yn ddiweddar yng Nghaerdydd, Aberystwyth a Chaerfyrddin.

14 yn gweithredu dros Ddeddf Iaith Newydd

deddf_iaith_newydd.gifYn 2000 cyhoeddodd Bwrdd yr Iaith eu bont yn cyd-weithio gyda'r cwmni Orange i ddarparu gwasanaethau Cymraeg. Erbyn Ionawr 2004 does dim gwasanaethau Cymraeg o unrhywfath gydag Orange.

Gwahodd Prif Weithredwr i brotestio gyda Sion Corn

deddf_iaith_newydd.gifMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi gwahodd Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr newydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg i brotest yng Nghaerfyrddin o dan arweiniad Sion Corn.

Galw ar McDonalds i barchu ein hiaith a'n Cymunedau

deddf_iaith_newydd.gifYn Aberystwyth prynhawn dydd Sadwrn (27/09/03) , am 1pm, cynhaliodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yr ail brotest mewn cyfres yn erbyn cwmni McDonalds. Prif fwriad y brotest oedd galw ar y cwmni i gynnig gwasanaeth Cymraeg cyflawn. Ar yr un pryd, roedd y protestwyr yn galw ar y cwmni i gefnogiír economi leol, trwy wneud defnydd o gynnyrch amaethwyr lleol.

Galw ar McDonalds i barchu ein hiaith yng Nghaerfyrddin

deddf_iaith_newydd.gifYng Nghaerfyrddin yfory, am 1pm, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cychwyn cyfres o brotestiadau yn erbyn cwmni McDonalds. Prif fwriad y brotest fydd galw ar y cwmni i gynnig gwasanaeth Cymraeg cyflawn. Ar yr un pryd, bydd y protestwyr yn galw ar y cwmni i gefnogi'r economi leol, trwy wneud defnydd o gynnyrch amaethwyr lleol.

Archdderwydd yn cefnogi Deddf Iaith Newydd

eisteddfod.JPGYng Nghylch yr Orsedd ddydd Llun galwodd yr Archdderwydd am Ddeddf Iaith newydd. Wrth annerch cyn urddo'r aelodau newydd i'r Orsedd, galwodd Robyn Lewis am "ddeddf iaith newydd wedi'i theilwrio ar gyfer Cymru ddatganoledig yr 21ain ganrif".

Alun Pugh yn cyfaddef mai siarad gwag yw 'Iaith Pawb'

logoWAG.jpgMae Alun Pugh, y Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros Ddiwylliant a'r Iaith Gymraeg yn y Cynulliad Cenedlaethol, wedi cydnabod am y tro gyntaf na fydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu'n llawn rhai o nodau sylfaenol eu dogfennau polisi, "Dyfodol Dwyieithog" a "Iaith Pawb".