Gwasanaethau iechyd a lles yn Gymraeg i bobl ifanc yn allweddol

Ar faes yr Eisteddfod ddydd Llun 29 Mai bydd Cymdeithas yr Iaith a’r elusen meddwl.org yn cynnal trafodaeth banel am bwysigrwydd darparu gwasanaethau iechyd a lles i blant a phobl ifanc

Dywedodd Gwerfyl Roberts, Cadeirydd Grŵp Iechyd Cymdeithas yr Iaith:
"Mae'n addas ein bod ni'n tynnu sylw at ddiffyg gwasanaethau iechyd Cymraeg i bobl ifanc yn yr ŵyl fwyaf i bobl ifanc yn Ewrop ac sy'n digwydd yn Gymraeg. Wythnos yma bydd cyfle i bobl Cymru weld, clywed a defnyddio'r Gymraeg yn hollol naturiol, ond os ydyn nhw am drafod materion sensitif yn Gymraeg gyda gweithwyr iechyd neu les mae'n annhebygol y byddan nhw'n gallu gwneud hynny.
“Mae Confensiwn Hawliau Plant a Phobl Ifanc Cymru Cynghrair Cenhedloedd Unedig yn nodi pa hawliau sydd gan blant - fel yr hawl i fywyd ac i dyfu'n iach, i ofal arbennig a chymorth er mwyn byw bywyd llawn ac annibynnol, i weld y meddyg ac i ddefnyddio'u hiaith eu hunain. Er hynny dydy'r hawliau hynny ddim yn cyd-gysylltu yng Nghymru ar hyn o bryd - does dim sicrwydd o gael gwasanaethau iechyd a lles yn Gymraeg.”

Ychwanegodd Dr Llinos Roberts:
"Does dim bai ar unigolion sydd yn gweithio ym maes iechyd i ddarparu'r gwasanaethau, mae angen cynllunio'r gweithlu fel bod y Gymraeg yn rhan o hyfforddiant staff newydd gwasanaeth iechyd a lles, a bod y gweithlu presennol yn cael cyrsiau i ddysgu neu loywi eu Cymraeg er mwyn gallu ei ddefnyddio'n hyderus.”

Yn ystod y digwyddiad bydd y meddyg teulu ac ymgyrchydd iaith, Dr Llinos Roberts, yn arwain sgwrs gyda'r Dr Rhys Bevan Jones, seiciatrydd fydd yn trafod iechyd meddwl pobl ifanc a dwyieithrwydd; y gantores, ysgrifennydd sgriptiau, a myfyrwraig MA mewn Ymarfer Seicotherapiwtig, Non Parry; a Iestyn Gwyn Jones, fydd yn sôn am ei brofiadau o ddarpariaeth iechyd meddwl yn Gymraeg - a’i ddiffyg

Yn siarad cyn y sgwrs dywedodd Non Parry:
"Fel rhan o 'ngradd Meistr Ymarfer Seicotherapi dwi wedi bod yn neud gwaith ymchwil i bwysleisio pwysigrwydd adnoddau iechyd meddwl Cymraeg. Mae'n ddigon anodd cyfleu a rhannu profiadau iechyd meddwl fel mae ond mae'n anoddach fyth os nad ydio'n bosib yn eich iaith gyntaf. Mae'n fwy na phwysig, mae'n hanfodol i allu rhannu eich teimladau yn yr iaith 'da chi'n 'teimlo'."