Diddordeb mewn trefnu gigs steddfod?

Mae cefnogi a hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg trwy gynnal gigs wedi bod yn ganolog i waith y Gymdeithas ers y cychwyn, ac wythnos gigs yr Eisteddfod Genedlaethol yw uchafbwynt y gweithgarwch hwnnw bob blwyddyn. Mae'n ffynhonnell incwm bwysig, ac mae'r elw a wneir o'r wythnos yn help mawr i gynnal ein hymgyrchoedd ar hyd y flwyddyn.

Yr ydym felly yn chwilio am Swyddog Adloniant i fod yn gyfrifol am drefnu gigs Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024. Cynigir y gwaith ar delerau llawrydd o Ionawr i ddiwedd Awst 2024 (mae manylion yr oriau yn y swydd-ddisgrifiad).

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd, dydd Llun, 4 Rhagfyr.

Mae manylion pellach a disgrifiad swydd ar gael yma.