Darlledu

Ynadon yn dweud wrth arweinwyr y Gymdeithas 'I aros tu fas!'

radio_carmarthenshire.JPG Wrth ddedfrydu 5 aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg i ryddhad amodol am 12 mis am greu difrod troseddol yn 'Radio Carmarthenshire' fis Gorffennaf diwethaf, dywedodd Cadeirydd Ynadon Hwlffordd heddiw: "Yr ydym yn edmygu eich ymroddiad i’r iaith ond dylasech fod wedi protestio y tu allan i’r adeilad."

Pump gerbron Llys Ynadon Hwlffordd

radio_carmarthenshire.JPG Fe dderbyniodd chwech aelod o Gymdeithas yr iaith Gymraeg rybudd gan yr heddlu, yn ystod y dydd heddiw, am achosi difrod troseddol yn ystod protest yn stiwdio Radio Carmarthenshire nôl ym mis Gorffenaf.

Carden Felen - am y tro

radio_carmarthenshire.JPGCarden Felen - dyna oedd rhybudd Ofcom i Radio Carmarthenshire ddoe (Mercher 20 Hydref). Ar ôl misoedd o ymgyrchu gan Gymdeithas yr Iaith, mi gyhoeddwyd adroddiad Ofcom ar Radio Carmarthenshire. Enillwyd dadl Cymdeithas yr Iaith felly, a chydnabyddwyd nad yw Radio Carmarthenshire yn dal at eu hochor nhw o'r fargen ble mae'r iaith Gymraeg yn y cwestiwn.

Gorsaf Radio'n bradychu pobl Sir Gâr

radio_carmarthenshire.JPG Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cylchlythyru pob Cyngor Tref a Chymuned yn Sir Gaerfyrddin gan ofyn iddynt fynegi i OFCOM eu pryder fod Radio Sir Gâr wedi cefnu ar eu haddewid i gynnal gwasanaeth dwyieithog.

Cannoedd yn herio “Welsh Not” Radio Carmarthenshire

radio_carmarthenshire.JPGDisgwylir neuadd orlawn yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin pan fydd cannoedd o bobl ifanc yn dod i wrando ar fandiau Cymraeg yn chwarae gig byw i brotestio yn erbyn gwaharddiad Radio Carmarthenshire ar gerddoriaeth leol a Chymraeg.

Sky TV - “Who are’ya”!

SKY Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cwestiynu’r penderfyniad Awdurdodau’r Steddfod i roi safle ar y maes i Sky TV. Ymddangosent gydag arddangosfa symudol mewn prif safle wrth y Pafiliwn Ddydd Sadwrn. Roedd eu harddangosfa gosod a rhyngweithiol oll yn uniaith Saesneg haeblaw am 1 poster bach o waith cartre’n gwahodd Eisteddfodwyr i wylio gemau rhyngwladol pêl-droed Cymru’n fyw ar Sky yn y dyfodol.

Rhyddhau ar fechniaeth heb gyhuddiad.

Protest Radio Carmarthenshire Mae'r 11 aelod o Gymdeithas yr Iaith a gafodd eu harestio ddoe yn dilyn y brotest yn stiwdio Radio Sir Gâr yn Arberth (Sir Benfro !) wedi cael eu rhyddhau - wedi treulio 12 awr mewn celloedd unigol - ar fechniaeth i ddychwelyd at Swyddfeydd Heddlu ym mi Medi.

“We never have played Welsh music and we never will!”

radio_carmarthenshire.JPG Fe feddianodd tua 20 o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg stiwdio Radio Carmarthenshire yn Arberth y bore yma, a thorri ar draws darllediad byw. Roedd modd clywed gwaeddiadau o 'Ble Mae'r Gymraeg?' yn fyw ar y Radio. Roedd yn rhaid i Radio Carmarthenshire atal y darllediad am bron i funud ac nid oedd modd iddynt ddarlledu bwletin newyddion 12pm.

Radio Carmarthenshire - Ni'n Gwrando!

radio_carmarthenshire.JPG Heddiw, 13/6/04, mae Radio Carmarthenshire yn dechrau darlledu go iawn yn Sir Gâr, ac ar drothwy’r digwyddiad hwn fe gododd aelodau o Gymdeithas yr Iaith faner ar fast trosglwyddo Carmel ger Cross Hands. Mae’r neges ar y faner yn syml – “ni’n gwrando”.