Ymgyrchwyr yn ‘methu â deall’ gwrthod cynlluniau i achub canolfan Gymraeg

Mae ymgyrchwyr wedi dweud nad ydynt yn deall penderfyniad rheolwyr canolfan Gymraeg yng Nghaerdydd i wrthod cynlluniau i’w hadfer ac i’w gwerthu yn lle.

Eiddo cymunedol yw Tŷ’r Cymry, sydd wedi ei leoli yn ardal y Rhath yn y brifddinas, a roddwyd i Gymry Cymraeg Caerdydd ym 1936 er mwyn hyrwyddo’r iaith a statws cyfansoddiadol i Gymru.

Ddydd Sadwrn, fe gafodd grŵp o bobl leol, gyda chefnogaeth nifer o fudiadau, gyfarfod gyda’r tri unigolyn sy’n rheoli Tŷ’r Cymry.

Cyflwynodd y grŵp enwau unigolion sy’n dymuno cymryd yr awenau, ac i gynnal ac adfer yr adeilad, gan fanylu ar ddarpar gynlluniau i’w ail-ddatblygu. Fodd bynnag, mae rheolwyr y tŷ bellach wedi datgan eu bod yn bwriadu gwerthu’r ganolfan hanesyddol.

Mae grŵp o bobl leol a mudiadau wedi bod yn cwrdd ers nifer o fisoedd er mwyn trafod cynlluniau i achub y tŷ hanesyddol fel canolfan Gymraeg. 

Dywedodd Steve Blundell, Cadeirydd Rhanbarth Morgannwg-Gwent Cymdeithas yr Iaith:

“Mae’n hynod siomedig bod y rhai sy’n rheoli’r adeilad ar hyn o bryd yn benderfynol o’i werthu. Rydyn ni’n methu’n lan â deall. Mae yna grŵp brwdfrydig sydd wedi bod yn cwrdd ers misoedd i ddatblygu cynlluniau i adfer y tŷ, gan wahodd y pwyllgor presennol i ymgysylltu. Fe drefnon ni ddigwyddiad cyhoeddus llwyddiannus, ac roedd consensws clir yn y cyfarfod y dylai Tŷ’r Cymry barhau ac y dylai criw newydd gael cyfle i wneud y mwyaf o’i botensial. Siawns y dylen nhw gael cyfle i drio rhoi bywyd newydd i’r lle”

“Does dim amheuaeth bod nifer o leoliadau cymdeithasol cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd wedi diflannu dros y blynyddoedd diwethaf. Mae gwerth gofod o’r fath yn llawer iawn mwy na’i werth yn nhermau ariannol.

“Fe fyddwn ni’n parhau i frwydro er mwyn diogelu ac adfywio’r adnodd gwerthfawr hwn i’r Gymraeg, yn enwedig un sydd â hanes mor ysbrydoledig.
Mae'r adeilad wedi bod yn gartref i nifer o sefydliadau ers iddo gael ei sefydlu - gan gynnwys Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru, yr Urdd, Plaid Cymru, Cymdeithas yr Iaith a Chylch Meithrin Tŷ'r Cymry."